Mae gennym ymrwymiad i sicrhau y caiff y cyfleoedd i adfywio ein canol trefi eu cynyddu i'r eithaf drwy wahanol gynlluniau ac mae pum tref °¬²æAƬ yn cynnig stondinau masnachol sy'n hysbysebu gwasanaethau cwmnïau allanol. Gallwn ail-fuddsoddi’r arian a godwyd ym mhob tref yn ôl i weithgaredd cysylltiedig â'r dref.
Faint yw'r gost?
Mae ein tariff codi tâl yn weithredol ar gyfer wythnos 7 diwrnod ac yn cynnwys dyddiau marchnad.
Tref | Cyfradd Ddyddiol (£) | Lleoliad |
Abertyleri | 40 | Stryd yr Eglwys |
Blaenau | 40 | Stryd Fawr |
Brynmawr | 40 | Sgwâr y Farchnad |
Glynebwy | 50 | Stryd Bethcar |
Tredegar | 40 | Stryd Fasnachol |
Sut y gallaf archebu?
Caiff pob ymholiad am archebion masnachol eu trin gan y Gwasanaeth Adfywio. I gael mwy o wybodaeth neu i archebu, llenwch y Ffurflen Gais islaw os gwelwch yn dda a'i dychwelyd atom ar y manylion cyswllt islaw.
Sut i dalu?
Cliciwch ar y ddalen islaw i wneud taliad:
I gael math arall o dalu cysylltwch â ni ar 01495 355700
Dylid nodi y dylid derbyn taliadau pan gadarnheir argaeledd.
Ni ddylech wneud taliad nes y cadarnhawyd eich Archeb Fasnachol.
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gyswllt
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch ni ar 01495 355700
E-bost: business@blaenau-gwent.gov.uk.
Cyfeiriad: Gwasanaethau Adfywio, Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ, Swyddfeydd Bwrdeisiol, Canolfan Ddinesig, Glynebwy, NP23 6XB