°¬²æAƬ

Diogelwch Meysydd Chwarae

Tystysgrifau Diogelwch ar gyfer Meysydd Chwarae ac Eisteddleoedd Rheoledig 

Os ydych yn gweithredu maes chwarae sy’n dal mwy na 10,000 o wylwyr gallai fod yn ofynnol i chi ddal tystysgrif ddiogelwch. 

Gallai tystysgrif ddiogelwch fod naill ai; 

  • yn dystysgrif ddiogelwch gyffredinol a gyflwynwyd at ddefnydd maes chwarae ar gyfer gweithgarwch penodol, neu weithgareddau penodol, yn ystod cyfnod amhenodol.
  • yn dystysgrif ddiogelwch arbennig at ddefnydd maes chwarae ar gyfer gweithgarwch penodol, neu weithgareddau penodol, ar achlysur neu achlysuron penodol. 

Os ydych yn gweithredu maes chwarae yn Lloegr, Yr Alban neu Gymru, nad yw wedi ei ddynodi fel un lle mae tystysgrif ddiogelwch yn ofynnol, fe fydd dal angen i chi fod â thystysgrif ddiogelwch ar gyfer unrhyw eisteddle dan orchudd sy’n dal mwy na 500 o wylwyr. 

Gallai tystysgrif ddiogelwch fod naill ai;  

  • yn dystysgrif ddiogelwch gyffredinol sy’n cwmpasu defnydd yr eisteddle ar gyfer gwylio gweithgarwch, neu nifer o weithgareddau, a nodwyd yn y dystysgrif am gyfnod amhenodol sy’n cychwyn ar ddyddiad penodedig.
  • yn dystysgrif ddiogelwch arbennig sy’n cwmpasu defnydd yr eisteddle ar gyfer gwylio gweithgarwch penodol neu weithgareddau penodol a nodwyd ar gyfer achlysur neu achlysuron penodol.  

Gallai un dystysgrif gwmpasu mwy nag un eisteddle. 

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau ynghlwm wrth dystysgrif. 

Pwy All Wneud Cais? 

I fod yn gymwys ar gyfer tystysgrif ddiogelwch, mae’n rhaid i chi fod yn debygol mewn safle i atal tramgwyddo telerau ac amodau tystysgrif.

 

A oes yn rhaid i fi dalu ffi am wneud cais? 

Cysylltwch, os gwelwch yn dda, ag Adran Iechyd yr Amgylchedd ar 01495 369542.

Sut Caiff Fy Nghais ei Brosesu? 

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani a chynlluniau i’r Cyngor o fewn yr amser a nodir. Os metha’r ymgeisydd â darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani o fewn yr amser penodedig tybir bod y cais wedi ei dynnu’n ôl. 

Bydd y Cyngor yn ystyried a yw’r ymgeisydd mewn safle i atal tramgwyddo telerau ac amodau’r dystysgrif. 

Mae’n rhaid i’r Cyngor anfon copi o gais am dystysgrif ddiogelwch i Brif Swyddog yr Heddlu yn yr ardal, Yr Awdurdod Tân ac Achub os nad nhw yw’r awdurdod hwnnw. Mae’n rhaid ymgynghori â phob un o’r cyrff hyn ynghylch y telerau a’r amodau i’w cynnwys yn y dystysgrif. 

Os gwneir cais i drosglwyddo tystysgrif mae’n rhaid i’r Cyngor benderfynu a yw’r person y mae’r dystysgrif i’w throsglwyddo iddo/i, pe bai’n gwneud cais, yn gymwys ar gyfer cyflwyno tystysgrif iddo/i. Gallai’r ymgeisydd fod yn ddeiliad cyfredol y dystysgrif neu’r person y mae’r dystysgrif i’w throsglwyddo iddo/i. 

Mae’n rhaid i’r Cyngor anfon copi o gais trosglwyddo i Brif Swyddog yr Heddlu yn yr ardal, Yr Awdurdod Tân ac Achub os nad nhw yw’r awdurdod hwnnw. 

Faint fydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol? 

Bydd eich cais yn cymryd hyd at 28 niwrnod i’w brosesu.  Ni fydd caniatâd dealledig yn weithredol. Mae o ddiddordeb cyffredinol fod yn rhaid i’r Cyngor brosesu’ch cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed oddi wrth y Cyngor o fewn 28 niwrnod, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.  

A allaf i apelio os yw fy nghais yn aflwyddiannus? 

Cysylltwch, os gwelwch yn dda, ag Adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf ynghylch unrhyw geisiadau trwydded a ddychwelwyd neu a wrthodwyd. 

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif ddiogelwch iddo/iddi gan na ystyrir ef/hi’n berson cymwys apelio i’r Llys Ynadon.

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif ddiogelwch arbennig iddo/i apelio i’r Llys Ynadon yn erbyn gwrthod ei gais/chais yn seiliedig ar resymau nad yw’n gysylltiedig â phenderfyniad yn nodi nad yw’n berson cymwys.

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Commercial Team

Rhif Ffôn: 01495 369542

Cyfeiriad: Public Protection – Environmental Health, Commercial Team, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN

Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk