Nodiadau Esboniadol Ardrethi Busnes (Nndr)
Mae’r wybodaeth a roddir isod yn esbonio rhai o’r termau y gellir eu defnyddio mewn biliau ardrethi annomestig a’r wybodaeth gefnogi.
Ardrethi Annomestig
Caiff yr ardrethi annomestig a gaiff eu casglu gan awdurdodau bilio eu talu i gronfa ganolog a’u hailddosbarthu i gynghorau sirol a bwrdeistrefi sirol a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu. mae eich cyngor a chomisiynydd yr heddlu a throseddu yn defnyddio eu cyfran o iincwm ardrethi a ailddosberthir, ynghyd ag incwm o’r dreth gyngor, grant cymorth refeniw a ddarperir gan Weinidogion Cymru a symiau neilltuol eraill, i dalu am y gwasanaethau a ddarparant. Gellir cael mwy o wybodaeth am y system ardrechthi annomestig, yn cynnwys pa ryddhad sydd ar gael drwyÌý
ÌýGwerth Arddrethol
Caiff gwerth ardrethol eiddo annomestig ei osod yn y rhan fwyaf o achosion gan swyddog prisio annibynnol oAsiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n Asiantaeth Weithredol Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC)(. Maent yn paratoi ac yn cynnal rhestr lawn o werth ardrethol pob eiddo annomestig yng nghymru ac mae ar gael ar eu gwefan yn . Caiff pob eiddo annomestig ei ailbrisio bob 5 mlynedd fel arfer. O 1 Ebrill 2023 mae gwerth ardrethol eiddo yn cynrychioli ei werth rhent blynyddol ar y farchnad agored fel ar 1 Ebrill 2021.
Ar gyfer eiddo cyfansawdd sydd yn rhannol ddomestig ac yn rhannol annomesetig, mae’r gwerth ardrethol yn ymwneud â’r rhan annomestig yn unig. Caiff gwerthoedd yr holl eiddo y mae ardrethi yn daladwy i’ch awdurdod amdanynt eu dangos yn y rhestr ardrethi lleol, a gellir gweld co[i yn eich swyddfa brisio leol neu yng nghyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ.
Ailbrisiad
Caiff pob gwerth ardrethol eu hailasesu mewn ailbrisiad cyffredinol i sicrhau fod ardrethi a gaiff eu talu gan unrhyw un trethdalwr yn dangos newidiadau dros gyfnod yngÌý ngwerth eu heiddo o gymharu ag eraill. Mae hyn yn helpu i gynnal tegwch yn y system ardrethi drwy ddiweddaru prisio yn unol â newidiadau yn y farchnad. Daw rhestr ardrethi 2023 i rym ar 1 Ebrill 2023 ac mae’n seiliedig ar werthoedd fel ar 1 Ebrill 2021.
Yn y flwyddyn y daw ailbrisiad i rym, caiff y lluoesydd ei ail-seilio i gyfrif am newidiadau cyffredinol i’r cyfanswm gwerth ardrethol ac i sicrhau nad yw’r ailbrisio yn codi arian ychwanegol.
Newid Gwerth Ardrethol
Gall y gwerth ardrethol newid os yw’r swyddog prisio yn credu fod amgylchiadau’r eiddo wedi newid. mewn rhai amgylchiadau gall y sawal sy’n talu’r ardreth (ac eraill neilltuol sydd â buddiant yn yr eiddo) hefyd gynnig newid mewn gwerth. os nad yw’r sawl sy’n talu’r ardreth a’r swyddog prisio yn cytuno ar y prisio o fewn 3 mis o wneud y cynnig, caiff y mater ei gyfeirio gan y swyddog prisio fel apoêl gan y cynigydd i Dribbiwnlys Prisio Cymru. Mae mwy o wybodaeth am sut i gynnig newid mewn gwerth ardrethol ar gael gan swyddfeydd prisio.
Lluosydd Ardrethi Annomestig
Dyma’r gyfradd yn y bunt y caiff y gwerth ardrethol ei luosi ganddo i roi’r bil ardrethi blynyddol ar gyfer eiddo. Mae’r lluosodd a osodir bob blwyddyn gan weinidogion Cymru yr un fath ar gyfer Cymru gyfan ac ar wahân i flwyddyn ailbrisio ni all godi gan fwy na chyfradd y cynnydd yn y fynegai prisiau manwerthu.
Cynigion ac Apeliadau
Mae gwybodaeth am sut y gellir cynnig newid mewn gwerth ardrethol a sut y gellir gwneud cynnig o’r fath ar gael gan y swyddfa prisio leol a ddangosir uchod. Gellir cael mwy o wybodaeth am drefniadau apêl gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn cynnig gwasanaeth apêl annibynnol rhad ac am ddim ar gyfer apeliadau am Ardrethi Annomestig a’r Dreth Gyngor. Mae eu manylion cyswllt ar gael yma
ÌýArdrethi Eiddo Gwag
Gall perchnogion eiddo annomestig gwag fod yn atebol i dalu ardrethi eiddo gwagg a godir ar 100% o’r atebolrwydd arferol. Mae atebolrwydd yn dechrau ar ôl i’r eiddo fod yn wag am 3 mis neu, yn achos rhai adeiladau diwydiannol, ar ôl i’r eiddo fod yn wag am 6 mis. Mae rhai mathau o eiddo wedi eu heithrio o ardrethi eiddo gwag.
Rhyddhad Elusennol a Dewisol
Mae gan elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol hawl i ryddhad o 80% ar ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig lle –
(a) yn achos elusennau, caiff yr eiddo ei ddefnyddio’n gyfangwbl neu yn benaf ar gyfer dibenion elusennol; neu
Ìý(b) yn achos clwb, mae’r clwb wedi cofrestru gyda HMRC.
Gall awdurdodau bilio ddewis allosod y cyfan neu ran o 20% gweddilliol y bil ar eiddo ar fath a gall hefyd roi rhyddhad yng nghysallt eiddo a ddefnyddir gan rai cyrff nas sefydlwyd neu nas cynhelir er elw.
I gael mwy o wybodaeth am glybiau dylech gysylltu â HMRC -Ìý.
ÌýRhyddhad Ardrethi Busnesau Bach
Mae Gorchymyn Ardrethi Annomestig (Rhyddhad Busnesau Bach) (Cymru) 2015 yn cynnwys darpariaeth am ryddhad trethi ar gyfer busnesau bach. Mae manylion llawn yn cynnwys y meini prwaf ar gymhwyster, yr eithriadau, y gofynon gweithdrefnol a’r rhyddhad ardrethi perthnasol ar gael ynÌý
Rhyddhad Ardrethi Trosiannol
Daw’r rhestr ardrethi annomestig nesaf i rym ar 1 Ebrill 2023, yn dilyn ailbrisio. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi rhyddhad trosiannol i bawb sy’n talu ardrethi y mae eu hatebolrwydd yn codi gan fwy na £300 fel canlyniad i ailbrisio. Caiff unrhyw gynnydd mewn atebolrwydd ardrethi annomestig fel canlyniad i ailbrisio ei gyflwyno mewn camau dros ddwy flynedd.
Bydd trethdalwr yn talu 33% o’u hatebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2023-24) a 66% yn yr ail flwyddyn (2024-25), cyn cyrraedd eu hatebolrwydd llawn yn y drydedd flwyddyn (2025-26). Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £113m dros ddwy flynedd i gyllido’r rhyddhad hwn, gan gefnogi pob maes o’r sylfaen trethi drwy gynllun trosiannol cyson a syml.
Mae canllawiau ar gyfer Rhyddhad Trosiannol ar gael Ìý