Mae’n ofyniad dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fod cynghorau yn parhau i adolygu eu perfformiad drwy hunanasesiad, gyda’r angen i gyhoeddi adroddiad yn cyflwyno casgliadau’r hunanasesiad unwaith bob blwyddyn ariannol.
Hwn yw adroddiad hunanasesiad trydydd Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ ar gyfer blwyddyn 2023/24. Ffocws yr hunanasesiad yw Cynllun Corfforaethol y Cyngor a rhoi asesiad o ba mor dda y mae’r Cyngor yn teimlo iddo gyflawni ei Amcanion Llesiant, a amlinellwyd yn y Cynllun Corfforaethol, a lle mae angen gwelliant pellach.
Mae’r hunanasesiad wedi’i ysgrifennu i gyd-fynd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Mae'r hunanasesiad hwn wedi'i ddatblygu ar adeg benodol ac mae'n cynnwys y wybodaeth oedd ar gael bryd hynny. Mae dull y Cyngor o hunanasesu yn broses adolygu barhaus a chyfnewidiol a bydd yr asesiad yn cael ei ddiweddaru pan fydd mwy o wybodaeth ar gael. Mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod y bydd y broses hunanasesu yn esblygu dros amser a chaiff y trefniadau eu diwygio fel y bo'n briodol wrth symud ymlaen fel bod rhaglen adolygu a gwerthuso effeithiol ar waith i herio effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir. Fel rhan o'r broses hon, mae'r Cyngor yn hyrwyddo ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfranogiad ac ymgysylltu gydag amrywiol grwpiau a'r gymuned. Mae tystiolaeth o'r gweithgaredd hwn i'w weld drwy'r ddogfen a bydd gwaith pellach yn cael ei wneud drwy gydol y flwyddyn i ehangu ein cyrhaeddiad a hyrwyddo tryloywder.
Fel cyngor gweithiwn i ddull ‘Un Cyngor’ a chaiff hyn ei weld drwy’r ddogfen i gyd gyda gwahanol enghreifftiau a thystiolaeth o weithgaredd yn mynd dan nifer o flaenoriaethau a themâu strategol. Caiff cynnydd a heriau eu dynodi ym mhob rhan o’r ddogfen hefyd. Lle cafodd her ei hadnabod, dynodwyd cam gweithredu cyfatebol i’w weithredu dros y flwyddyn i ddod.
Am hawster gweld gwybodaeth, mae'r hunanasesiad ar gael mewn nifer o ffyrdd fesul penodau unigol yn ogystal â Chrynodeb Gweithredol.
- Heriau Allweddol a Adnabuwyd ar Gyfer Gweithredu yn 2024/25
- Hunanasesiad 2023/24 Cyngor °¬²æAƬ
- Cyfnod Cyffredinol
- Inffograffeg
- Rhagair/ Cyflwyniad
- Gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
- Ein dealltwriaeth am Flaenau Gwent
- Hunanasesiad Blynyddol °¬²æAƬ 2023/24
- Cynyddu dysgu a sgiliau i bawb er mwyn creu °¬²æAƬ lewyrchus, ffyniannus a chadarn
- Ymateb i’r argyfwng natur a hinsawdd a galluogi cymunedau cysylltiedig
- Grymuso a chefnogi cymunedau i fod yn ddiogel, annibynnol a gwydn
- Cyngor uchelgeisiol ac arloesol sy’n darparu gwasanaethau o safon ar yr amser iawn ac yn y lle iawn
- Dangosyddion Perfformiad
- Hunanasesiad – Cynnydd a Wnaed Yn Erbyn Camau Gweithredu 2022/23