Mae ein Cynllun Datgarboneiddio yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Rydym wedi ymrwymo i arwain datgarboneiddio ar draws °¬²æAƬ. Credwn fod yr arweinyddiaeth hon yn dechrau trwy fynd i’r afael ag effaith ein gweithrediadau ein hunain ar yr hinsawdd.Â
Sail ein cynllun yw asesiad cynhwysfawr o effaith garbon ein gweithrediadau, gan gynnwys cyfrifo ein hôl troed carbon.
Mae'r cynllun yn nodi naw llwybr pontio ac yn cynnwys data a chrynodebau sy’n nodi heriau allweddol ar gyfer pob llwybr.
Bydd y cynllun hefyd yn helpu i sicrhau bod datgarboneiddio yn cael ei ymgorffori yn ein cynlluniau tymor hir i wella llesiant ym Mlaenau Gwent.
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn gweithredu ar newid hinsawdd cliciwch yma