°¬²æAƬ

Arddangosfa Windrush yn dod i Flaenau Gwent

Mae heddiw’n nodi 76 mlynedd ers i’r teithwyr cyntaf gyrraedd ar long yr Empire Windrush ar 22ain Mehefin 1948 – diwrnod a adnabyddir fel Diwrnod Cenedlaethol Windrush.

Oeddech chi’n gwybod, ar y diwrnod hwn yn 1948, glaniodd llong HMT Empire Windrush yn Noc Tilbury i’r dwyrain o Lundain – gan ddod â 492 o fewnfudwyr o’r Caribî.

Bryd hwnnw, estynnwyd gwahoddiad i drigolion gwledydd yn y Caribî i ymsefydlu yn y DU ac i helpu i gefnogi Prydain yn sgil yr Ail Ryfel Byd.  Adnabyddir y rheiny a gyrhaeddodd yn y DU rhwng 1948 a 1971 fel Cenhedlaeth Windrush. I nifer, ystyrir bod glaniad HMT Empire Windrush yn un o brif gerrig milltir adferiad Prydain ar ôl y rhyfel a sefydlu cymdeithas amlddiwylliannol Brydeinig fodern.

Mae arddangosfa sy’n dathlu hanes cenhedlaeth Windrush yng Nghymru yn Amgueddfa Torfaen ar hyn o bryd ac mae ar gael i’w gweld.

Mae Arddangosfa Windrush Cymru’n amlygu gorchestion a chyfraniadau’r rheiny a ddaeth i aros yn y DU o’r Caribî, ynghyd a’u disgynyddion. Chwaraeodd yr arloeswyr yma ran hanfodol wrth ailadeiladu Prydain – gan weithio mewn gweithfeydd dur, pyllau glo, ysbytai a thrafnidiaeth gyhoeddus – gan lunio gwead ein cenedl.

Bydd yr arddangosfa gan Gyngor Hil Cymru, wedi ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol, yn symud i Flaenau Gwent cyn hir.  Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol ar ragor o wybodaeth.

Gallwch hefyd wrando ar gyfres Podleidiadu Valleys Voices,  a gynhelir gan Dîm Cydlyniad Cymunedol Gorllewin Gwent, ble mae Sean Wharton yn rhannu ei stori fel un o ddisgynyddion cenhedlaeth Windrush a’u brofiadau o gael ei fagu yng Ngwent.

Am fwy o wybodaeth am Genhedlaeth Windrush, gallwch ymweld â Sefydliad Cenhedlaeth Windrush trwy glicio ar y  

Efallai bydd gyda chi ddiddordeb hefyd mewn darllen a chefnogi Llywodraeth Cymru – cynllun sy’n ceisio gwrthsefyll hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb ledled Cymru erbyn 2030.