Tredegar
Bydd Gorymdaith Dydd y Cofio yn cael ei chynnal yn Nhredegar ddydd Sul 10 Tachwedd 2024. Mae’r trefniadau’n cynnwys gwasanaeth yn Eglwys San Siôr rhwng 10.00am a 10:20am, yna bydd yr orymdaith yn ffurfio y tu allan i’r eglwys gan gychwyn am 10:30am a theithio ar hyd Church Street, Commercial Street, (Queen Victoria Street), Castle Street a Morgan Street i Barc Bedwellte tua’r Gofeb Ryfel lle bydd y Gwasanaeth Coffa arferol yn digwydd, ynghyd â’r seremoni Dwy Funud o Dawelwch a Gosod Torch. Ar ôl hynny bydd y mynychwyr yn mynd eu ffordd eu hunain.
Glynebwy
Bydd yr Orymdaith yn ymgynnull ddydd Sul 10 Tachwedd 2024 yn Bethcar Street ger Wetherspoons yng Nglynebwy am 10.15am, ac am 10.30am. Yna bydd yn teithio ar hyd Market Street a Libanus Road i’r Gofeb Ryfel ar gyfer Gwasanaeth y Cofio, a fydd yn dechrau am 10.50am.
Ar ôl y Gwasanaeth, bydd yr orymdaith yn ailffurfio ac yn gorymdeithio yn ôl i fyny Libanus Road gyda’r saliwt yn cael ei wneud yn Market Street cyn gorffen.
Bydd lluniaeth yn cael ei weini yn y Ganolfan Addysg Oedolion ar James Street ar ôl i’r orymdaith gael ei rhyddhau.
Y Cwm
Bydd yr Orymdaith yn ymgynnull ddydd Sul 10 Tachwedd 2024 ym maes parcio Canolfan Fusnes y Cwm, Marine Street, Y Cwm tua 10.20am, ac am 10.30am bydd yn teithio ar hyd Marine Street i’r Gofeb Ryfel y tu allan i adeilad y llyfrgell ar Cannings Street ar gyfer y Gwasanaeth Coffa, a fydd yn dechrau am 10.50am
LLanhilleth
Bydd Gwasanaeth Cofio Llanhiledd yn cael ei gynnal ddydd Sul 10 Tachwedd 2024 wrth y Gofeb Ryfel y tu allan i Stiwt Llanhiledd, i ddechrau am 10.45am.
Abertyleri
Bydd Gorymdaith a Gwasanaeth Dydd y Cofio yn cael eu cynnal yn Abertyleri ddydd Sul, 10 Tachwedd 2024. Ymgynnull am 10.15am ar ben uchaf Church Street, dechrau gorymdeithio am 10.30am ar hyd Church Street, ar hyd Hill Street a Somerset Street, i gyrraedd y Gofeb Ryfel am 10.45am ar gyfer y Gwasanaeth Coffa.
Brynmawr
Cynhelir Gorymdaith a Gwasanaeth Dydd y Cofio ym Mryn-mawr ddydd Sul, 10 Tachwedd 2024, gan ymgynnull am 10.15am y tu allan i’r hen Legion Club ar King Street a bydd yn cychwyn tua 10.25am, gan deithio ar hyd King Street, Somerset Street a Bailey Street i gyrraedd y Gofeb Ryfel ar Sgwâr y Farchnad er mwyn i’r Gwasanaeth Coffa ddechrau am 10.45am. Ar ôl hynny, bydd yr orymdaith yn ailymgynnull ar Alma Street ac yn mynd yn ôl i Glwb Cymdeithasol Bryn-mawr (y Lleng Brydeinig Frenhinol gynt) trwy Bailey Street, Somerset Street a King Street.
Nant-y-glo a’r Blaenau
Gorymdaith a Gwasanaeth Dydd y Cofio i’w cynnal yn ardal Nant-y-glo a’r Blaenau ddydd Sul, 10 Tachwedd 2024. Dechrau am 2.10pm o Garn Cross, Nant-y-glo gan fynd ymlaen i’r Gofeb Ryfel, Parc Canolog, Y Blaenau ar gyfer Gwasanaeth Cofio am 2.45pm.
Yn dilyn y Gwasanaeth, bydd yr orymdaith yn ail-ffurfio ac yn gorymdeithio i’r Stiwt/Llyfrgell, High Street, Y Blaenau. Bydd y saliwt yn cael ei gynnal yn Swyddfeydd Dosbarth yr Hen Gyngor, gyda’r Orymdaith yn cael ei rhyddhau y tu allan i Stiwt/Adeilad Llyfrgell y Blaenau.
Ar ôl cwblhau’r Gwasanaeth a’r Orymdaith, bydd lluniaeth ar gael yn y Cons Club, High Street, Y Blaenau.
Rasa a’r Cendl
Bydd y Gwasanaeth Cofio ar gyfer ardal Rasa a’r Cendl yn cael ei gynnal ddydd Sul, 10 Tachwedd 2024.
Bydd yr orymdaith yn ymgynnull am 1.30pm ym mhrif fynedfa’r Beaufort Theatre ac am 1.45pm bydd yn gorymdeithio i lawr Beaufort Rise i’r Senotaff ar gyfer gwasanaeth coffa.
Ar ôl y gwasanaeth bydd yr orymdaith yn ailffurfio ac yn gorymdeithio yn ôl i fyny Beaufort Rise lle bydd y saliwt yn cael ei wneud cyn gorffen yn Ystafell Ddawns y Cendl.
Ar ôl rhyddhau’r orymdaith, bydd lluniaeth ar gael yn Ystafell Ddawns y Cendl lle mae croeso i bawb.
Bourneville
Dydd Sul 10 Tachwedd 2024. Ymgynnull yn y Neuadd Gymunedol am 3.00pm. Bydd torchau’n cael eu gosod wrth y gofeb ryfel.
°¬²æAƬ (Abertyleri)
Dydd Sul 10 Tachwedd 2024. Ymgynnull yn y Neuadd Gymunedol am 4.00pm.