°¬²æAƬ

°¬²æAƬ yn cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd 2024-28

Mae’r cynllun yn nodi gweledigaeth ac ymrwymiad y cyngor i hyrwyddo cydraddoldeb ym Mlaenau Gwent.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ wedi cyhoeddi ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 newydd, yn dilyn ymgynghoriad â thrigolion, staff, partneriaid a rhanddeiliaid. Mae’r cynllun yn amlinellu amcanion a chamau gweithredu cydraddoldeb y cyngor ar gyfer y pedair blynedd nesaf, yn ogystal â sut y bydd yn monitro ac adrodd ar ei gynnydd.

Rydym yn cydnabod, fel darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, fod gennym rôl allweddol i’w chwarae wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Felly, byddwn yn parhau i ymdrechu i gyflawni ein blaenoriaeth, sef ‘°¬²æAƬ – lle sy’n deg, agored a chroesawgar i bawb drwy weithio gyda a thros ein cymunedau’, fel yr amlinellir yng Nghynllun Corfforaethol 2022-27. Mae’r cynllun yn nodi chwe amcan cydraddoldeb y bydd y cyngor yn canolbwyntio arnynt, sef:

  • Amcan Cydraddoldeb 1: Byddwn yn sefydliad teg a chyfiawn.
  • Amcan Cydraddoldeb 2: Byddwn yn weithle sy’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Amcan Cydraddoldeb 3: Byddwn yn creu diwylliant dysgu teg a chynhwysol i bob plentyn ac unigolyn ifanc gyda ffocws ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Amcan Cydraddoldeb 4: Byddwn yn hyrwyddo ac yn cefnogi cymunedau cynhwysol, diogel a chydlynol.
  • Amcan Cydraddoldeb 5: Byddwn yn sicrhau ymgysylltiad a chyfranogiad effeithiol ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig.
  • Amcan Cydraddoldeb 6: Byddwn yn ymdrechu i leihau anghydraddoldeb a achosir gan dlodi.

Mae’r cynllun hefyd yn nodi’r camau y bydd y cyngor yn eu cymryd i gyflawni’r amcanion hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Smith, Hyrwyddwr Cydraddoldeb Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ: “Rydym yn falch o lansio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd 2024-28, sy’n adlewyrchu ein gweledigaeth a’n hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mlaenau Gwent. Rydym yn cydnabod nad yw cydraddoldeb yn rhwymedigaeth gyfreithiol yn unig, ond hefyd yn gyfrifoldeb moesol a chymdeithasol, ac rydym am sicrhau bod pawb yn ein bwrdeistref sirol yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial a mwynhau ansawdd bywyd da. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n staff, trigolion, partneriaid a rhanddeiliaid i gyflawni’r cynllun hwn a gwneud °¬²æAƬ yn lle tecach a mwy cynhwysol i bawb.â€

Darganfyddwch fwy yma: