Mae Cyngor °¬²æAƬ yn cefnogi ei breswylwyr mwyaf bregus gydag amrywiaeth o ddulliau wrth i gostau byw barhau i gynyddu.
Darparodd y Cyngor £29,000 o gyllid grant i gefnogi 30 o gynlluniau Canolfannau Clyd yn gynharach eleni. Roedd hyd at £1,000 ar gael i ddechrau i sefydliadau i helpu cynnig lluniaeth neu bryd o fwyd sylweddol, darpariaeth ar gyfer cyngor a chymorth neu weithgaredd pellach tebyg i ymarfer a’r celfyddydau ac a ddylai fod ar gael i’r holl gymuned eu defnyddio.
Darparwyd cyllid pellach fis Mawrth o gynllun costau byw dewisol y Cyngor i ymestyn y ddarpariaeth Canolfannau Clyd am 3 mis arall i ddechrau’r haf.
Ym mis Chwefror yn unig fe wnaeth y canolfannau clud gefnogi 1,256 o breswylwyr ym mhob rhan o Flaenau Gwent. Er enghraifft, daeth 257 o breswylwyr i Eglwys Bedyddwyr Ebenezer yn Abertyleri, 216 i Cafe 316 yng Nglynebwy a 137 i DÅ· Cymunedol Coed Cae yn Nantyglo.
Dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas, Arweinydd Cyngor °¬²æAƬ:
“Sylweddolwn y pwysau ar ein cymunedau lleol gan fod preswylwyr yn gorfod ymdopi gyda gofynion yr argyfwng costau byw. Mae’n parhau i fod yn un o’n prif flaenoriaethau i wneud popeth a fedrwn fel Cyngor, a gweithio gyda phartneriaid, i gefnogi ein cymunedau.
Mae’r cynnydd sylweddol mewn costau ynni yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu pawb, preswylwyr a busnesau fel ei gilydd. Mae Canolfannau Clyd yn bwysig gan eu bod yn rhoi amgylchedd croesawgar, diogel a thwym i breswylwyr y gallant fynd iddo pan y gall pethau fod yn anodd gartref am nifer o resymau. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi medru cefnogi gwaith y llu o grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill sy’n ymwneud gan eu bod yn deall anghenion pobl leol ac mae’n fan mynediad delfrydol ar gyfer cymunedau lleol.’
Astudiaeth Achos – Canolfan Tabor
Daeth dyn gyda phroblemau symudedd ac oedd yn dioddef o unigrwydd i Ganolfan Tabor. Mae’n ei chael yn anodd cymdeithasu. Cafodd sgwrs hir gyda’r gwirfoddolwyr yn y ganolfan a mwynhau’r cwmni a’r lluniaeth. Dywedodd y dyn iddo fwynhau’r ymweliad a’r gefnogaeth a gafodd a’i fod yn hapus iawn i gael rhywle i fynd ac y byddai’n dod yn ôl eto.