°¬˛ćAƬ

Cymeradwyaeth i safle gweithgynhyrchu gwydr yng Nglynebwy

Rhoddwyd caniatâd cynllunio heddiw ar gyfer safle gweithgynhyrchu poteli gwydr yng Nglynebwy, sy’n anelu i ddod â tua 600 o swyddi i’r ardal leol pan fydd yn agor.

Cafodd CINER Glass Property Cyf, sydd eisoes yn gweithredu safle yn Nhwrci, ganiatâd ffurfiol ar gyfer adeiladu a gweithredu safle a adeiladir yn bwrpasol ar gyferĚý gweithgynhyrchu gwydr, a datblygiad cysylltiedig ar Stad Ddiwydiannol Rasa. Disgwylir y bydd rhan gyntaf y safle, a elwir yn “Dragon Glass”, yn weithredol ddiwedd 2024. Rhoddwyd y caniatâd gyda nifer o amodau cynllunio manwl a osodwyd gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor °¬˛ćAƬ.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Gweithrediaeth Lle ac Adfywio Cyngor °¬˛ćAƬ:

“Mae hyn yn newyddion gwych i Flaenau Gwent. Mae safle gweithgynhyrchu gwydr CiNER yn fuddsoddiad pwysig fydd yn dod â swyddi y mae angen mawr amdanynt i Flaenau Gwent a’r cylch, yn ystod y cyfnod adeiladu a hefyd pan fydd yn gweithredu’n llawn. Bydd ganddo hefyd fuddion ar gyfer cadwyni cyflenwi lleol ac mae’n hwb mawr a gaiff ei groesawu i’r economi lleol wrth i ni sicrhau adferiad o effaith niweidiol pandemig Covid.

“Strategaeth fusnes CiNER yw bod yn gynhyrchydd gwydr mwyaf y byd yn defnyddio’r dechnoleg orau a diweddaraf, ac i wneud hynny gyda model sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, yn gynaliadwy ac yn gwerthfawrogi pobl. Bydd hyn yn creu cyfleoedd cyflogaeth sylweddol o fewn rhanbarth sydd yn cael ei herio’n economaidd wrth i ni weithio i fynd i’r afael ag amddifadedd economaidd a chreu mwy o gyfleoedd economaidd ar gyfer ein cymunedau.

“Mae CiNER yn ymroddedig i gysylltu gydag amrywiaeth o bartneriaid lleol yn cynnwys colegau, yr awdurdod lleol a’r Ganolfan Byd Gwaith/Gyrfa Cymru i ddatblygu cyfleoedd o amgylch prentisiaethau a lleoliadau gwaith yn cynnwys yn ystod y gwaith adeiladu.”

Roedd rhai preswylwyr lleol wedi codi pryderon am y datblygiad ac roedd yr holl sylwadau a gwrthwynebiadau hyn ar gael i’r Pwyllgor Cynllunio heddiw. Nododd adran gynllunio’r Cyngor yn gynhwysfawr sut y gellid trin pob un o’r pryderon hyn. Dywedodd Steve Smith, Pennaeth Cynllunio, yr argymhellwyd cynllunio i symud ymlaen gyda nifer o amodau y bwriedir iddynt wneud y datblygiad yn fwy derbyniol, lliniaru unrhyw effaith ar breswylwyr a’r ardal leol a gweithredu rheolaeth dros y safle yn y dyfodol. Cafodd ansawdd aer a llygredd, effaith weledol, sŵn, materion priffyrdd a materion ecoleg a’r amgylchedd i gyd eu trin fel rhan o’r adroddiad manwl a gyflwynwyd i aelodau’r Pwyllgor Cynllunio.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Winnett, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio:

“Rydym yn deall yn llawn y pryderon a fynegodd pobl leol am y safle, ac mae’n bwysig iawn iddynt gael cyfle i amlinellu eu sylwadau a’u gwrthwynebiadau fel rhan o’r broses cynllunio. Rwy’n ddiolchgar i’r Pwyllgor Cynllunio am roi ystyriaeth i hyn i gyd a phwyso a mesur pob mater wrth gyrraedd eu penderfyniad. Rwy’n hyderus y gall yr amodau manwl a roddir gyda’r cais negyddu’r pryderon a godwyd, a gallaf roi sicrwydd o’r pwyllgor a’r Cyngor y byddwn yn monitro cydymffurfiaeth yn agos gan y datblygydd yn ystod y gwaith adeiladu a phan fydd y safle yn weithredol.”

Ěý

Ěý