Mae Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr a Chyngor °¬²æAƬ wedi croesawu adroddiad cryf a chadarnhaol iawn gan Estyn ar yr ysgol.
Mae’r corff arolygu wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau yn dilyn arolwg i’r ysgol a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2023.
Nododd yr adroddiad:
- Mae’r staff yn ymrwymo i weledigaeth yr ysgol, sef creu amgylchedd diogel a gofalgar i sicrhau bod disgyblion yn ‘dysgu i gyflawni gyda’i gilydd’. Mae’r pennaeth, sy’n fodel cryf o ymddygiad, gyda disgwyliadau uchel ar ei gyfer ef ei hun ac eraill, yn cyfleu’r weledigaeth hon yn glir.
- Mae hyrwyddo lles disgyblion yn ganolog i waith yr ysgol ac mae ganddi ystod helaeth o ddarpariaeth i gefnogi disgyblion mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol.
- Mae arweinwyr yn gweithio’n dda gyda’i gilydd ac yn llwyddo i greu ethos ar draws safleoedd yr ysgol sy’n crisialu ‘Ffordd Ebwy Fawr’, sef bod ‘Yn Barod, Yn Barchus ac Yn Ddiogel’.
- Mae athrawon yn ymgysylltu disgyblion yn eu dysgu, yn darparu profiadau gwerthfawr sy’n perthyn i’w bywydau bob dydd ac yn dileu rhwystrau rhag dysgu yn llwyddiannus.
- Mae arweinwyr yn lliniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad a lles disgyblion yn effeithiol. Maent yn monitro a gwerthuso gwaith yr ysgol yn ofalus ac yn gweithredu newidiadau’n effeithiol. Defnyddiant safbwyntiau disgyblion a rhieni’n dda i wneud gwelliannau i’r ddarpariaeth, yn arbennig ar gyfer lles disgyblion.
- Mae cwricwlwm yr ysgol yn eang a chytbwys, ac yn cefnogi gweledigaeth yr ysgol yn llwyddiannus, sef galluogi disgyblion i fod yn uchelgeisiol a’u paratoi i fod yn ddinasyddion y dyfodol. Mae’n darparu mynediad teg i ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag ADY, o aelwydydd ag incwm isel a’r rhai sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae arweinwyr yn addasu’r cwricwlwm yn ofalus i fodloni anghenion unigolion a grwpiau o ddisgyblion.
- ‘Mae ‘Cwricwlwm Enfys’, sef fframwaith a ddatblygwyd gydag ysgolion cynradd partner yn y clwstwr i gynorthwyo â chyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, yn helpu athrawon i gynllunio datblygiad medrau yn gynyddol. O ganlyniad, mae sy'n symud i'r cyfnod uwchradd o'r cyfnod cynradd yn elwa o gwricwlwm sy'n ddi-dor.
Mae’r Pennaeth, Mr Huw Lloyd, yn hynod falch o’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Dywedodd:
“Rwy’n hynod falch o’r adroddiad yma. Mae staff a disgyblion wedi gweithio’n anhygoel o galed dros gyfnod hir, ac mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd cyson flwyddyn ar flwyddyn. Rwyf hefyd yn falch fod yr adroddiad yn llwyr gydnabod fanteision a llwyddiant Addysg Pob Oed. Sefydlwyd Ebwy Fawr yn 2012 fel yr ysgol pob oed gyntaf yng Nghymru ac mae’r adroddiad hwn yn dyst o flaengaredd a dewrder °¬²æAƬ wrth chwalu traddodiad drwy sefydlu ffordd newydd o ddarparu addysg yn yr awdurdod ac yn wir yng Nghymru.â€
Croesawodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor dros Bobl ac Addysg, yr adroddiad a diolch i bawb oedd yn gysylltiedig am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Dywedodd:
“Mae darparu’r safonau addysgol a chyfleoedd gorau oll ar gyfer ein plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn flaenoriaeth bennaf i ni. Rwy’n hynod falch fod yr adroddiad hwn yn cydnabod gwaith ymroddedig a phenderfynol staff yr ysgol, llywodraethwyr ac wrth gwrs y disgyblion i wneud Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr y gorau oll y gall fod.
“Hoffwn ddiolch i’r Pennaeth a’i uwch dîm arweinyddiaeth, y Corff Llywodraethu a’r holl staff addysgu a chymorth. Rydych i gyd wedi cydweithio, mewn partneriaeth gyda’r Cyngor a Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru, i roi’r cyfleoedd addysgu a dysgu ansawdd uchel a’r cyfleoedd bywyd y mae ein plant a’n pobl ifanc yn eu haeddu. Da iawn bawb.â€
Dywedodd Mr Richard Barrett, Cadeirydd y Corff Llywodraethu:
“Roedd yn dda iawn cwrdd â thîm Arolygu Estyn a chlywed eu sylwadau cadarnhaol am ddisgyblion a staff, a’r dyfarniad yn eu hadroddiad ysgrifenedig. Mae’r adroddiad yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad y Pennaeth a staff yr ysgol wrth yrru’r ysgol ymlaen yn ystod pandemig Covid a’i ganlynidau. Mae hefyd yn adlewyrchu’n ffafriol iawn ar ein disgyblion a rhieni, y gymuned leol a’n hysgolion cynradd clwstwr wrth gefnogi’r ysgol a’i nodau.
Bydd yr ysgol yn parhau i bwysleisio lles a chefnogaeth ar gyfer disgyblion, rhieni a staff lle mae’r adroddiad wedi cadarnhau bod y dull hwn yn arwain at y deiliannau gorau ar gyfer ein myfyrwyr i gyd.â€
Gallwch ddarllen yr adroddiad yn llawn yma - -