°¬²æAƬ

Cynghorwyr yn cymeradwyo cynllun i wella ynni cartrefi.

Mae Cabinet Cyngor °¬²æAƬ heddiw wedi cymeradwyo cymryd rhan mewn cynllun rhanbarthol sydd â’r nod o wella effeithiolrwydd ynni yng nghartrefi’r preswylwyr tlotaf o ran tanwydd yn y fwrdeistref.

Bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda Phrifddinas-Ranbarth Cymru a’r cyflenwr ynni EDF, fel rhan o Gynllun Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO4 Fled) i ddynodi anheddau sydd angen mesurau gwella ynni. Caiff cartrefi perchnogion eiddo a thenantiaid rhentu preifat sy’n cymhwyso eu ôl-osod gydag amrywiaeth o fesurau insiwleiddio a gwella ynni fel rhan o ddull gweithredu ‘tŷ cyfan’.

Mewn cynllun blaenorol manteisiodd 134 aelwyd ym Mlaenau Gwent o fesurau yn cynnwys gosod boeleri newydd, waliau ceudod, insiwleiddiad waliau mewnol ac atigau, gwres canolog tro cyntaf,  gwella gwresogyddion trydan a gosod paneli solar. Mae elfen hyblyg o’r cynllun newydd yn galluogi cynghorau i deilwra cynlluniau effeithiolrwydd ynni yn eu hardaloedd. Dan ECO4 Flex, gall cynghorau atgyfeirio aelwydydd daliadaeth preifat y mae’n ystyried eu bod mewn tlodi tanwydd neu ar incwm isel ac yn fregus i effeithiau byw mewn cartref oer.

Dywedodd y Cyng Helen Cunningham, Aelod Cabinet y Cyngor dros Le ac amgylchedd:

“Gyda chynnydd enfawr mewn prisiau ynni a mwy o deuluoedd mewn tlodi tanwydd, caiff y cynllun hwn ei groesawu’n fawr. Bydd yn targedu pobl sy’n byw mewn adeiladau gyda’r graddiad perfformiad ynni isaf a’r rhai heb fod ar y grid nwy. Gobeithiwn y bydd yn gostwng anghydraddoldeb mewn safonau byw ac wrth wneud hynny sicrhau iechyd a llesiant i bobl sy’n cael budd o’r cynllun.

Mae hefyd yn cefnogi nod y Cyngor i chwarae ein rhan mewn ymateb i’r argyfwng natur a hinsawdd byd-eang. Mae angen i ni ostwng llawer iawn ar ein allyriadau carbon ac mae gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi yn rhan o hynny.â€

Mwy mwy o wybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan y Cyngor yn y dyfodol agos.