Mae hi’n 10 mlynedd ers i Gymru arwain y ffordd fel y wlad gyntaf yn y DU i’w gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i arddangos sgoriau hylendid bwyd. Ers mis Tachwedd 2013, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau yng Nghymru arddangos eu sticer sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg – fel y drws blaen, y fynedfa neu ffenestr.
Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi sicrhau buddion parhaol i ddefnyddwyr ac i fusnesau fel ei gilydd. Yn wir, mae’r Cynllun yn cael ei ddathlu fel un o gyflawniadau mwyaf arwyddocaol y wlad yn yr 21ain ganrif o ran iechyd cyhoeddus.
Ddegawd yn ddiweddarach, mae’r Cynllun wedi codi safonau mewn busnesau bwyd yn awdurdod lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ gyda dros 46% o fusnesau’n arddangos sgôr o 5 a 90.9% o fusnesau â sgôr o 3 neu uwch.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Cabinet dros Le a’r Amgylchedd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ:
“Mae’r sticeri du a gwyrdd a gaiff eu dangos ar fwytai, caffes, archfarchnadoedd ac ar-lein yn helpu i ddangos i bobl sut mae busnesau ym Mlaenau Gwent yn cymryd hylendid a safonau bwyd o ddifrif.
“Mae sticeri sgôr hylendid bwyd yn ffordd syml a thryloyw o ddangos canlyniadau archwiliadau glanweithdra a gynhaliwyd gan ein swyddogion. Mae’r cynllun yn rhoi hyder i ddefnyddwyr y caiff gwiriadau eu cynnal y caiff bwyd ei baratoi a’i weini mewn ffordd lanwaith a bod busnesau yn ateb y gofynion deddfwriaethol ar gyfer hylendid bwyd.â€
Mae’r Cynllun yn rhoi grym i bobl wneud dewisiadau gwybodus ynghylch ble i brynu a bwyta bwyd bob dydd. Mae arddangos y sgoriau yn cynnig manteision eraill hefyd, ac yn annog busnesau bwyd i wella eu safonau hylendid. Gall pob busnes bwyd ennill y sgôr uchaf o ‘5 – da iawn’ drwy wneud yr hyn sy’n ofynnol yn ôl cyfraith bwyd. Cofiwch! Mae sgôr hylendid da yn gadarnhaol i fusnesau – gan gynnig mantais gystadleuol i’r rhai sydd â’r sgôr hylendid uchaf.
Ni ddylid diystyru effaith y Cynllun. Mae’r Cynllun gorfodol wedi arwain at wella safonau hylendid mewn busnesau bwyd, gyda 96% o fusnesau yng Nghymru bellach yn arddangos sgôr o ‘3’ neu uwch. Mae ymchwil yn dangos bod busnesau sydd â sgôr uwch yn llai tebygol o fod yn gyfrifol am achosion o salwch a gludir gan fwyd.
Dywedodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru:
“Rydym yn falch o gynnal y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun. Wrth ymgysylltu’n rheolaidd â busnesau bwyd, maent wedi chwarae rhan allweddol wrth godi safonau hylendid i’r fath lefelau heddiw. Mae’r Cynllun yn caniatáu i bobl bleidleisio â’u traed neu drwy glicio botwm a dewis y busnesau hynny sy’n cymryd hylendid bwyd o ddifrif.â€
Cofiwch holi am y Sgôr Hylendid Bwyd, edrych am y sticer, neu wirio ar-lein cyn prynu bwyd: