°¬²æAƬ

Cyngor yn gwneud 'Profiad o Ofal' yn Nodwedd Warchodedig

Mae cynghorwyr ym Mlaenau Gwent heddiw wedi cytuno ar gynnig a fydd yn gweld pobl â phrofiad o ofal yn derbyn statws nodwedd warchodedig.

Daethpwyd â'r Cynnig gan grŵp o gynghorwyr a ddywedodd fod 'pobl â phrofiad o ofal yn un o'r grwpiau mwyaf agored i niwed ar draws ein cymdeithas, yn aml yn wynebu stigma a gwahaniaethu gydol oes.'  Cafodd ei gefnogi a'i groesawu gan yr holl gynghorwyr yn y cyfarfod.

Mae ymchwil wedi dangos bod pobl â phrofiad o ofal yn llai tebygol o gael mynediad i addysg bellach fel prifysgol, yn fwy tebygol o gael eu talu'n is yn eu cyflogaeth, a 70% yn fwy tebygol o farw cyn pryd.

Yr Aelod Cabinet dros Bobl a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Haydn Trollope, oedd yn arwain y Cynnig. Meddai:

"Er y bydd y profiad o ddod i ofal a derbyn gofal fel plentyn yn unigryw i bob unigolyn, nid oes modd gwadu’r ffaith ei fod yn gadael etifeddiaeth barhaol ac yn dylanwadu ar drywydd bywyd. Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn wynebu gwahaniaethu, stigma a rhagfarn yn eu bywydau o ddydd i ddydd ac fel Cyngor rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i newid hynny.

"Byddai gwneud profiad o ofal yn nodwedd warchodedig yn ein galluogi i roi polisïau a rhaglenni ar waith a fydd yn hybu canlyniadau gwell i bobl â phrofiad o ofal. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig lefel dda o gefnogaeth i unigolion sy’n gadael gofal tan eu bod yn 25 oed ond bydd gwneud profiad o ofal yn nodwedd warchodedig yn rhoi mwy o ystyriaeth ac amddiffyniad rhag gwahaniaethu i bobl dros yr oedran hwnnw."  

O ganlyniad i basio'r Cynnig, mae'r Cyngor wedi penderfynu:

· Ychwanegu 'pobl sydd â phrofiad o ofal' at Asesiad Effaith Integredig y Cyngor, fel bod effaith unrhyw benderfyniadau polisi ar bobl â phrofiad o ofal yn cael ei nodi a'i ystyried pan wneir y penderfyniadau hynny.

· Gwarantu cyfweliad i unigolion sydd wedi bod mewn gofal, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf dethol a nodir yn y disgrifiad swydd.

· Ystyried sut y gallai oresgyn yr anfanteision a'r gwahaniaethu a brofir gan bobl â phrofiad o ofal wrth osod ac adolygu'r Amcanion Cydraddoldeb Strategol.

Hefyd yn ddiweddar, llofnododd Cyngor °¬²æAƬ Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru, gan gryfhau ei ymrwymiad i sicrhau'r gwasanaethau a'r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Darllenwch fwy am hyn yma.

Person â phrofiad o ofal yw rhywun sy'n byw neu wedi byw mewn gofal ar unrhyw adeg yn ei fywyd. Mae hyn yn cynnwys plant sydd wedi profi - neu sy’n byw ar hyn o bryd - mewn gofal preswyl, gofal maeth, gofal gan berthnasau, neu gartref gyda gorchymyn goruchwylio. O dan 25 oed, cyfeirir atynt fel plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.