°¬²æAƬ

Cynllun Grantiau Bach Cydlyniant Cymunedol

Mae grant sydd wedi'i anelu at ariannu prosiectau sy'n dod â chymunedau at ei gilydd, wedi agor.

Gall grwpiau cymunedol, sefydliadau'r trydydd sector neu ysgolion wneud cais am hyd at £3000 i gefnogi prosiect cymunedol.

Mae'r grant ar gyfer prosiectau sy'n ceisio herio gwahaniaethu, hybu cynhwysiant, a rhoi cyfleoedd i bobl na fyddent fel arfer yn dod at ei gilydd i gyfarfod a dathlu ble maen nhw’n byw.

Enghraifft o brosiect a gefnogwyd y llynedd oedd Ysgol Gynradd Gymunedol Willowtown. Fe wnaeth yr arian gefnogi prosiect Big Bocs Bwyd i dyfu a ffynnu. Wrth dderbyn cyllid, mae’r ysgol wedi creu effaith ar deuluoedd mewn mwy nag un ffordd, wrth ddarparu bwyd maethlon i’w brynu, cardiau ryseitiau a gweithdai coginio a oedd hefyd yn cynnwys bag o fwyd i’w gludo gartref fel y gallai teuluoedd deimlo’n hyderus ac yn gyffyrddus wrth goginio’r rysáit gartref.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 19 Gorffennaf 2024 a rhaid cwblhau’r prosiectau erbyn 31 Ionawr 2025.

I wneud cais am y grant hwn, ac am fwy o wybodaeth cysylltwch

bridie.saunders@torfaen.gov.uk

k neu ffoniwch 01633 647223.