°¬²æAƬ

Cynlluniau i gynyddu'r ddarpariaeth ADY yn symud i'r cam nesaf

Mae Cabinet Cyngor °¬²æAƬ wedi cytuno i symud ymlaen â chynlluniau i gynyddu capasiti ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd yn raddol dros y pum mlynedd nesaf.

Yn dilyn cyfnod ymgynghori ffurfiol, cyflwynwyd adroddiad o'r canfyddiadau i'r Cabinet a oedd yn gyffredinol yn dangos cefnogaeth eang i'r cynigion.

Y cynllun yw ailfodelu amgylcheddau dysgu presennol i greu ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau cysylltiedig i gynnwys a darparu adnoddau priodol ar gyfer y darpariaethau ADY ac ASD arfaethedig. Yn ogystal, ac ochr yn ochr â hyn, bydd y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu cynllun hirdymor i gefnogi twf a datblygiad cynaliadwy.

Meddai Aelod Gweithredol y Cyngor dros Bobl ac Addysg, y Cynghorydd Sue Edmunds:

“Rwy’n falch bod y Cabinet heddiw wedi cefnogi’r cynlluniau hyn y mae mawr eu hangen i gynyddu capasiti a chymorth i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ym Mlaenau Gwent. Mae ein holl blant yn haeddu’r cyfle i ddatblygu eu potensial a llwyddo o fewn ein hysgolion a’n cymunedau ein hunain, ac rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cyfle hwnnw.

“Mae ein hymagwedd fesul cam yn cynnig ateb hirdymor effeithiol a chynaliadwy i ddysgwyr bregus °¬²æAƬ, gan roi’r offer sydd eu hangen arnynt i gael mynediad at addysg ochr yn ochr â’u grŵp cyfoedion eu hunain a rhoi’r offer sydd eu hangen ar ein hysgolion i gefnogi ystod eang o ddysgwyr mewn lle lleol.â€

Bydd y cynlluniau nawr yn symud ymlaen i gyhoeddi Hysbysiad Statudol.