Dadorchuddio plac yn Abertyleri i anrhydeddu ‘arloeswraig ddewr’ ym myd nyrsio

Dadorchuddir un o’r Placiau Porffor uchel eu bri i nyrs "arloesol a dewr" o Abertyleri, un o’r nyrsys Prydeinig cyntaf i wirfoddoli i helpu'r rhai a anafwyd yn Rhyfel Cartref Sbaen, ac a aeth ymlaen wedyn i bledio achos ei phroffesiwn ym Mhrydain.  

Plac Thora Silverthorne, sydd i'w ddadorchuddio y tu allan i Amgueddfa Abertyleri, AƬ, ddydd Gwener 13eg Mai, fydd y nawfed i'w ddadorchuddio dan gynllun Placiau Porffor Cymru. Syniad Aelodau’r Senedd, Julie Morgan a Jane Hutt, oedd y cynllun yn wreiddiol yn 2017, a’i nod yw dathlu gorchestion menywod Cymru sy’n aml heb eu cofio, a sicrhau bod eu straeon ysbrydoledig yn cael eu hadrodd i’r genhedlaeth nesaf.

Merch i löwr a dreuliodd ei bywyd cynnar yn Abertyleri oedd Thora Silverthorne. Cafodd ei thad, un o swyddogion yr NUM, ei ddiswyddo ar ôl Streic Fawr 1926 a gorfodwyd y teulu i adael Cymru er mwyn iddo ddod o hyd i waith. Mae ei theulu’n falch o’u gwreiddiau ac maen nhw “wrth eu bodd” o gael bod yn bresennol yn achlysur y dadorchuddiad yn nhref enedigol Thora.

Dywedodd Lucy Craig, merch Thora:

“Rwy’ i mor gyffrous – ac mor falch – fod fy mam yn cael ei hanrhydeddu â Phlac Porffor yn Abertyleri. Cafodd ei geni yn y dref a bu’n byw yno am 17 mlynedd gyntaf ei bywyd – blynyddoedd pan gafodd diwylliant a gwerthoedd Cymru effaith ddofn arni. Ffurfiwyd a hogwyd y daliadau sosialaidd fu ganddi gydol ei hoes nid yn unig ymhlith ei theulu a oedd yn ymwybodol iawn yn wleidyddol, ond gan y gymuned ehangach yn yr ardal hefyd.”

Meddai Sue Essex, cadeirydd Placiau Porffor Cymru:

“Ar ôl hyfforddi fel nyrs yn Ysbyty Radcliffe, Rhydychen, fe wirfoddolodd Thora, yn ddewr iawn, i fynd i Sbaen gyda meddygon a nyrsys Prydeinig eraill - roedd hyn er gwaetha’r ffaith na fedrai air o Sbaeneg ac na fu hi y tu hwnt i Ynysoedd Prydain erioed cyn hynny. Yn ystod ei chyfnod fel metron yn Sbaen bu’n cynorthwyo gyda llawdriniaethau mewn adeiladau oedd wedi’u bomio, weithiau heb gyflenwadau meddygol sylfaenol fel anesthetig hyd yn oed.

“Ymhellach, ar ôl dychwelyd i’r DU, aeth Thora ymlaen i sefydlu Cymdeithas y Nyrsys, sef yr undeb nyrsys cyntaf i ddeillio’n uniongyrchol o blith gweithwyr ar lawr gwlad, a’r ail fudiad yn unig i gynrychioli’r proffesiwn nyrsio. Yn ddiweddarach fe ddaeth yn rhan o UNISON.

“Hoffwn ddiolch i gyngor AƬ ac undeb UNISON am eu cymorth i osod y plac hwn a’i gwneud hi’n bosib i ddathlu’r hyn a gyflawnodd Thora.”

Rhaid cofio cyfraniad arall a wnaeth Thora i hanes meddygol hefyd. Fel un o sylfaenwyr y Gymdeithas Feddygol Sosialaidd arweiniodd ddirprwyaeth i gwrdd â’r Prif Weinidog ar y pryd, Clement Attlee, a’i Ysgrifennydd Iechyd, Aneurin Bevan, yn ystod ffurfio’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (GIG).

Mae’r plac wedi’i ariannu drwy garedigrwydd teulu Thora ac wedi ei greu gan y crochenydd o Gas-gwent, Julia Land. Bydd côd QR ‘History Points’ ochr yn ochr ag ef er mwyn helpu ymwelwyr â’r amgueddfa ddysgu am ei bywyd.

Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a fydd yn bresennol yn y seremoni ddadorchuddio:

“I raddau helaeth, mae hanes wedi anwybyddu llwyddiannau menywod, yma yng Nghymru ac o gwmpas y byd. Mae prosiect y Placiau Porffor yn ffordd syml ond pwysig o ddechrau unioni’r cam yma.

“Mae teulu Thora’n haeddu bod yn falch o'r hyn a gyflawnodd. Mae’n amlwg taw cyfiawnder cymdeithasol oedd canolbwynt ei gwaith o ran y rhai a anafwyd yn y rhyfel a hefyd o ran ei chydweithwyr yr oedd hi'n teimlo bod angen cynrychiolaeth well arnynt yn eu proffesiwn. Rwy’n siŵr bod ei hysbryd arloesol a’i chydwybod cymdeithasol yn deillio o’i magwraeth yn ferch i löwr o Gymru.”

Dywedodd Julie Morgan, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Caerdydd, a gafodd y syniad i gael Placiau Porffor yn wreiddiol:

“Pan ddechreuon ni’r cynllun Placiau Porffor roedden ni am sicrhau bod menywod a oedd wedi gwneud pethau ysbrydoledig yn ystod eu bywyd yn cael eu cofio. Mor aml fe welwch gerfluniau a phlaciau i ddynion tra bod llwyddiannau merched yn fynych heb eu nodi. Roedd penderfyniad Thora Silverthorne i ymuno â'r dynion a aeth i Ryfel Cartref Sbaen er mwyn helpu'r rhai a anafwyd yn un dewr. Peryglodd ei bywyd ei hun yn hollol anhunanol er mwyn cynorthwyo. Gorchest yr un mor drawiadol oedd dod yn ôl a sefydlu undeb i helpu nyrsys weithio tuag at ennill telerau ac amodau gwaith gwell. Mae hi’n fodel rôl gwych i ferched heddiw.”

Dywedodd Cyngor AƬ:

“Rydym yn falch iawn o gefnogi’r achlysur hwn i ddathlu bywyd rhyfeddol Thora Silverthorne o Abertyleri, yma ym Mlaenau Gwent. Mae cynllun Placiau Porffor Cymru yn gyfle gwych i gydnabod yr hyn a gyflawnodd menywod o bob rhan o Gymru sy’n aml yn cael eu hanwybyddu.

“Mae Thora yn fodel rôl rhagorol i’n plant a’n pobl ifanc, a dyma ffordd wych o sicrhau ein bod yn cofio ei hetifeddiaeth am byth.”

Richard Hughes, Chief Executive, Awen Cultural Trust:

"“Mae’n anrhydedd gennym yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen fod yn rhan o anrhydeddu llwyddiannau Thora Silverthorne. Mae cael plac porffor y tu allan i theatre y Metropole, yng nghalon Abertyleri, yn fodd gwych o sicrhau y caiff ei gorchestion a’i gwaith eu cofio gan genedlaethau’r dyfodol.”