°¬²æAƬ

Digwyddiadau tipio anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent yn gostwng yn sylweddol.

Mae tipio anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent wedi gostwng dros 40% yn ystod y tair blynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau cychwynnol.

Cofnodwyd 1,661 achos o dipio anghyfreithlon yn yr ardal yn ystod 2020/21 ond erbyn 2023/24 mae'r ffigwr hwn wedi gweld gostyngiad o 42% i 950 o ddigwyddiadau. Mae'r gostyngiad mewn tipio anghyfreithlon wedi cyfateb i gynnydd sylweddol mewn camau gorfodi, gyda 243 o hysbysiadau cosb benodedig o £400 wedi'u rhoi, gyda chyfanswm gwerth o dros £97,000, am droseddau tipio anghyfreithlon ers 2021.

Yn ogystal, mae erlyn unigolion a busnesau am gyfanswm o 43 o droseddau gwastraff gwahanol ers 2022 wedi gweld y llysoedd yn cyflwyno bron i £24,000 mewn dirwyon a chostau yn erbyn y rhai a erlynwyd.

Mae'r Cyngor wedi bod yn ymateb i dipio anghyfreithlon mewn ffordd newydd ac arloesol, gan ganolbwyntio'n rhagweithiol ar ddulliau atal; defnyddio offer gwyliadwriaeth a, lle gellir casglu tystiolaeth, geisio cosbi’r sy'n gyfrifol.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd:

"Nid yw clirio’r tipio anghyfreithlon ar ôl iddo ddigwydd yn ddigon mwyach, rydym yn mynd i'r afael â'r mater yn rhagweithiol ac yn dod â mwy o bobl nag erioed i gyfiawnder am y drosedd hinsawdd hon. Nid oes rheswm dros dipio anghyfreithlon, mae'n faich ar arian cyhoeddus, yn ddinistriol i'n tirwedd a'n hamgylchedd ac yn amharchus i'n cymunedau.

"Un o'n blaenoriaethau yw ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd ac mae mynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yn sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu yn y ffordd gywir ar gyfer ei daith ymlaen a bod bywyd gwyllt yn cael ei warchod.

"Mae gwaith agosach rhwng ein Timau Glanhau a Gorfodi, archwiliadau rhagweithiol o lwybrau gwaredu gwastraff busnes a’r defnydd o deledu cylch cyfyng wedi arwain at dystiolaeth a mynd ar drywydd ymchwiliadau troseddol yn llwyddiannus. Mae ein gwasanaeth gorfodi gwastraff hynod effeithiol yn sicrhau gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y digwyddiadau tipio anghyfreithlon."

* Mae'r ffigyrau'n aros i gael eu dilysu gan Cyfoeth Naturiol Cymru *

Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon:

• Trwy Ganolfan Gyswllt y Cyngor ar 01495 311556
• Trwy e-bost info@blaenau-gwent.gov.uk bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu gyda'r adran berthnasol o'r cyngor i ymateb yn unol â hynny.
• Trwy Fy Ngwasanaethau Cyngor /cy/fy-ngwasanaethau/
• Lawrlwythwch Ap symudol °¬²æAƬ