°¬²æAƬ

Dim angen pas COVID mwyach ar gyfer digwyddiadau dan do ac awyr agored

Mae Llywodraeth Cymru wedi diddymu’r gofyn i ddangos pas COVID i fynd i rai digwyddiadau yng Nghymru, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden.

Hynny wrth i Lywodraeth Cymru barhau i godi rhai o’r cyfyngiadau covid ac i achosion barhau i ostwng.

O heddiw, ni fydd angen y Pas COVID domestig arnoch i fynd i ddigwyddiadau a lleoliadau dan do ac awyr agored mwyach, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Ond os bydd y lleoliad neu’r digwyddiad ei hun am fynnu pas, mae croeso iddyn nhw wneud hynny.

Bydd y Pas COVID rhyngwladol yn dal i fod yn rhan bwysig o’r trefniadau ar gyfer gwneud teithiau rhyngwladol yn ddiogel. Dylai teithwyr edrych beth yw rheolau’r wlad y maen nhw am fynd iddi, gan gynnwys edrych a oes trefniadau gwahanol ar gyfer plant.

Dywedodd Gweinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, roedd y Pas COVID yn un o nifer o fesurau i ennyn hyder, i gadw busnesau’n agored ac i ddiogelu Cymru.

“Hoffwn ddiolch i bob sector am eu cydweithrediad a’u hymateb yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Gyda mwy a mwy o bobl wedi cael y brechlyn a’r brechlyn atgyfnerthu erbyn hyn a diolch i waith caled pawb ledled Cymru, rydyn ni’n hyderus bod cyfraddau’r coronafeirws yn cwympo a bod yr haul o’r diwedd ar fin dod ar fryn.â€