°¬²æAƬ

Diwedd cyfnod gyda dymchwel y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy

Mae’n ddiwedd cyfnod gyda’r broses wedi dechrau i ddymchwel hen swyddfa Cyngor °¬²æAƬ lle arferai cannoedd o staff weithio ers ei agor yn y 1960au.

Mae Prichard’s Contractors wedi dechrau ar y gwaith o ddymchwel rhan flaen adeilad y Ganolfan Ddinesig lle’r oedd y brif dderbynfa a Siambr y Cyngor a welodd lawer o drafodaethau gwleidyddol iach dros y blynyddoedd. Disgwylir y caiff 97% o ddeunyddiau’r adeilad eu hailgylchu.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Gweithredol Lle a’r Amgylchedd:
“Bydd llawer o bobl yn gyfarwydd gyda’r Ganolfan Ddinesig, felly mae’r dymchwel yn nodi diwedd pennod yn hanes Cyngor Blaenau Cyngor. Fel Cyngor, roeddem eisoes wedi symud i arferion gwaith mwy ystwyth ond fe wnaeth pandemig Covid-19 gyflymu hynny. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i sicrhau fod ein gwasanaethau o fewn cyrraedd rhwydd. Mae ystod eang o wasanaethau ar gael ar ein gwefan ond ar gyfer y rhai sy’n well ganddynt siarad wyneb yn wyneb gyda rhywun, gallant wneud hynny yn un o’n Hybiau Cymunedol sydd yn y llyfrgelloedd yng nghanol trefi.â€

Disgwylir y caiff y gwaith dymchwel ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2023. Bydd y darn byr o ffordd fynediad oddi ar yr A4046 (heol Tesco) i lawr at ardal y Ganolfan Ddinesig ar gau o nos Sul (23 Hydref) dros gyfnod y gwaith. Bydd mynediad i Ganolfan Iechyd Stryd y Bont a Chanolfan Byd Gwaith Glynebwy ar gael drwy’r amser ar B4486 Heol y Fynwent.

Caiff y maes parcio yng nghefn yr adeilad (Western Terrace) ei ffensio bant, fodd bynnag mae cylch troi ar gael ar gyfer modurwyr. Bydd y llwybr troed o’r danffordd i Heol y Fynwent ar gael drwy’r amser.

O’r chwith i’r dde:- Dan Davies Rheolwr Contract Pritchard’s Contractors, Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Gweithredol Lle ac Amgylchedd a Darren Richards Rheolwr Prosiect Cyngor °¬²æAƬ.