Yn 2015, fe wnaethom gyflwyno casgliad wythnosol am ddim ar gyfer eich batris o’r cartref, sy’n galluogi preswylwyr i roi eu hen fatris allan i’w hailgylchu mewn bag plastig bach clir.
Gan fod llawer o breswylwyr yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, rydym am ei gwneud hyn haws fyth iddynt ailgylchu popeth posibl o gartref. Felly, rydym yn cynnig bag bach gwyn ailddefnyddiadwy newydd i breswylwyr ei ddefnyddio i roi eu batris allan i ni eu casglu, yn hytrach na defnyddio eu bagiau plastig untro eu hunain.
Rhwng dydd Llun 20 Mawrth a dydd Gwener 14 Ebrill, byddwn yn danfon taflen wybodaeth at breswylwyr yn egluro sut i ddefnyddio’r gwasanaeth gwell hwn.
Beth yw manteision cyflwyno’r bag newydd hwn ar gyfer batris preswylwyr?
• Bydd yn ei gwneud yn haws i breswylwyr ailgylchu mwy o’u gwastraff o gartref.
• Mae’n fwy diogel casglu batris ar wahân i ddeunyddiau eraill. Pan fo batris yn cael eu hailgylchu gyda deunyddiau ailgylchadwy eraill, fel plastigion a chaniau, maen nhw’n gallu ffrwydro neu achosi tân, sydd yn beryglus i’n staff, yn difrodi offer prosesu ailgylchu, ac yn ddrwg i’r amgylchedd.
• Bydd yn lleihau ein hangen am fagiau plastig untro, sy’n well i’r amgylchedd.
• Pan fyddwn yn ailgylchu ein batris er mwyn iddynt gael eu troi’n nwyddau newydd, fel nwyddau electronig neu fatris newydd, rydym yn defnyddio llai o ynni o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘newydd’ neu ddeunyddiau ‘crai’ i greu’r eitemau hyn, gan hefyd leihau ein hallyriadau carbon sy’n helpu i atal newid hinsawdd.
• Bydd yn unol â’r dull a argymhellir ar gyfer yr holl gasgliadau ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu ledled Cymru a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn ein helpu i gyrraedd ei darged o ailgylchu 70% o’n holl wastraff erbyn 2025.
Beth ddylai preswylwyr ei wneud?
1. Casglu eu bag bach gwyn ailddefnyddiadwy newydd ar gyfer batris o’u Hwb Cymunedol agosaf, sydd mewn lleoliad canolog yn yr holl lyfrgelloedd lleol a reolir gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin. Hybiau Cymunedol °¬²æAƬ | °¬²æAƬ CBC (blaenau-gwent.gov.uk)
2. O ddydd Llun 17 Ebrill 2023, pan fydd preswylwyr angen cael gwared ar unrhyw fatris o’r cartref, dylent eu rhoi yn eu bag gwyn bach ailddefnyddiadwy newydd. (Ni ddylai preswylwyr ddefnyddio eu bagiau plastig untro eu hunain mwyach, nac unrhyw gynhwysydd arall, i roi eu batris allan i ni eu casglu.)
3. Cau’r fflap ar eu bag, yna ei roi wrth ochr – neu rhwng – eu cynwysyddion ailgylchu eraill cyn 7yb ar eu diwrnod casglu arferol.
4. Dylent gasglu eu cynwysyddion o’u man casglu unwaith y byddwn wedi’u gwagio.
Pa fathau o fatris ddylai preswylwyr eu rhoi yn eu bag newydd?
Os bydd gan breswylwyr unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth casglu batris, gallant glicio yma i ddarllen ein Cwestiynau Cyffredin.
Os bydd gan breswylwyr unrhyw gwestiynau pellach na chawsant ateb iddynt yn y Cwestiynau Cyffredin, yna mae croeso iddynt anfon ebost at cymraeg@blaenau-gwent.gov.uk neu roi galwad i ni ar 01495 311556.
Mae ailgylchu preswylwyr yn gwneud gwahaniaeth MAWR ym Mlaenau Gwent. Diolchwn iddynt am barhau i wneud y peth iawn ac am chwarae eu rhan dros yr amgylchedd, drwy ddidoli eu gwastraff ac ailgylchu popeth y gallant.
Am fwy o wybodaeth am yr hyn y gellir – ac na ellir – ei ailgylchu ym Mlaenau Gwent, cliciwch yma. Gwastraff ac Ailgylchu | °¬²æAƬ CBC