°¬²æAƬ

Estyn yn cydnabod gwelliannau yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri

Yn dilyn arolwg craidd diweddar cadarnhaodd Estyn Cymuned Ddysgu Abertyleri wedi gwneud gwelliannau mewn arweinyddiaeth, safonau a rheolaeth ariannol.

Daeth yr ymweliad monitro diweddar i’r casgliad y barnwyd fod Cymuned Ddysgu Abertyleri wedi gwneud cynnydd digonol yng nghyswllt yr argymhellion yn dilyn yr archwiliad craidd diweddaraf. Fel canlyniad, mae Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru yn tynnu’r ysgol o’r rhestr ysgolorion sydd angen gwelliant sylweddol.

Nododd adroddiad yr Arolwg, a gyhoeddwyd heddiw:

• Bod yr ysgol wedi datblygu a gweithredu strategaethau llwyddiannus er mwyn codi safonau disgyblion;

• Y bu gwelliant sylweddol mewn ymddygiad disgyblion, yn arbennig yn y Campws Uwchradd. Mae disgyblion yn dangos parch ac mae prosesau cryf yn eu lle i drin a rheoli ymddygiad heriol;

• Mae addysgu wedi dysgu yn gyffredinol a chafodd hynny effaith gadarnhaol ar gynnydd, ymddygiad ac agweddau disgyblion at ddysgu;

• Mae arweinyddiaeth sefydlog dda sy’n rhoi gwasanaeth da i’r Gymuned Ddysgu;

• Mae mwy o ddefnydd o lais disgyblion sydd wedi helpu i gefnogi’r gwelliannau a rhoi ymdeimlad o berchnogaeth i ddisgyblion; a

• Bod rheoli gofalus ar y gyllideb wedi gwella sefyllfa ariannol y Gymuned Ddysgu.

Dywedodd Meryl Echeverry, Pennaeth y Gymuned Ddysgu:

“Mae Cymuned Ddysgu Abertyleri wedi gweithio’n ddiflino dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ddatblygu dealltwriaeth glir o anghenion dysgwyr, gan roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol iddynt i’w cefnogi a’u herio, tra’n gweithredu cwricwlwm sy’n cefnogi eu taith addysgol ymhellach.

“Gyda chefnogaeth y corff llywodraethu a’r awdurdod lleol, ynghyd ag ymroddiad a phroffesiynoldeb ein staff, mae’r Gymuned Ddysgu wedi cael cydnabyddiaeth gadarnhaol gan Estyn a bydd yn parhau i symud ymlaen gan ddarparu’r addysg orau oll i’r holl ddysgwyr. Rydym yn falch iawn o’n cymuned ysgol.â€

Croesawodd y Cynghorydd Joanne Collins, yr Aelod Gweithredol dros Addysg, y newyddion a diolch i bawb oedd yn gysylltiedig am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Dywedodd:

“Dylai darparu’r safonau a chyfleoedd addysgol gorau oll ar gyfer plant a phobl ifanc fod yn hollol ganolog i unrhyw awdurdod addysg, a bu’n sicr yn un o’n prif flaenoriaethau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

“Mae hwn yn newid a groesawir yn fawr i Gymuned Ddysgu Abertyleri ac i’r Cyngor. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y daith wella hon ac i gydweithio i sicrhau newid gwirioneddol yn cynnwys arweinyddiaeth a holl staff y Gymuned Ddysgu, y Corff Llywodraethu, timau Addysg y Cyngor a Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru. Yn bwysicaf oll, hoffwn ddweud diolch i’n holl ddisgyblion gwych am weithio mor galed ac i’r rhieni a gofalwyr am eu cefnogaeth barhaus.

“Mae mwy o waith i gael ei wneud ond mae’r Gymuned Ddysgu mewn sefyllfa ardderchog i fynd o nerth i nerth.â€

Dywedodd Suzanne Williams, Cadeirydd y Llywodraethwyr:

“Bu’r Corff Llywodraethu yn gweithio’n agos gyda staff, disgyblion, rhieni a rhanddeiliaid i sicrhau fod y Gymuned Ddysgu wedi cyflawni holl argymhellion Estyn, tra’n gweithio dan bwysau eithafol oherwydd pandemig Covid-19.

"Mae’r Corff Llywodraethu yn falch tu hwnt o holl waith pawb sy’n gysylltiedig, sy’n rhoi Cymuned Ddysgu Abertyleri mewn sefyllfa gref iawn i barhau i adeiladu ar eu llwyddiannau. Mae gan y gymuned ysgol y gallant fod yn falch iawn ohoni a hoffwn ddiolch i’r holl staff, disgyblion a llywodraethwyr am gyflawni safonau mor uchel ar yr un pryd â chefnogi llesiant pawb.â€