°¬²æAƬ

Ffliw adar

Mesurau gorfodol newydd o ran bioddiogelwch a thai i ddiogelu ymhellach rhag ffliw adar

Mae perchnogion dofednod ym Mlaenau Gwent yn cael eu hannog gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol i baratoi ar gyfer mesurau newydd o ran bioddiogelwch a thai a ddaw i rym yn ddydd Gwener 2 Rhagfyr.

Mae gofynion bioddiogelwch a thai dofednod ac adar caeth yng Nghymru, a ddaw i rym ddydd Gwener 2 Rhagfyr, yn mynd rhagddynt er mwyn bod ar y blaen ar unrhyw gynnydd posibl i feirws ffliw adar yn yr amgylchedd ac adeiladu hydwythedd ychwanegol at y mesurau pwysig a gyflwynwyd fis Hydref drwy Barth Atal Ffliw Adar Cymru.

O ddydd Gwener, 2 Rhagfyr, fe fydd yn ofyniad cyfreithiol i holl berchnogion adar gadw eu hadar da do neu wedi eu gwahanu mewn modd arall oddi wrth adar gwyllt.

Rhaid i berchnogion hefyd gwblhau a gweithredu adolygiad bioddiogelwch pwrpasol ar gyfer yr adeilad y mae’r adar yn cael eu cadw ynddo. Mae hyn er mwyn isafu’r risg o’r feirws yn cael mynediad at gytiau adar sydd fel arfer yn arwain at farwolaeth ar raddfa uchel.

Mae’r mesurau newydd hyn yn ychwanegol at y rhai hynny ym Mharth Atal Ffliw Adar Cymru, sy’n parhau i fod yn hanfodol bwysig.

Nawr, mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn annog pobl sy’n cadw adar i gydymffurfio gyda’r mesurau newydd drwy wneud yn siŵr fod adeiladau yn addas.

Dywedodd y Cyng Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac amgylchedd: “Cafwyd cyrch digynsail o ran ffliw adar ym Mhrydain Fawr ac Ewrop yn 2022.

“Dim ond os oes bioddiogelwch trylwyr yn cyd-fynd â thai adar y bydd yn effeithiol o ran diogelu rhag ffliw adar a chadw’r feirws allan o gytiau adar. Y ffordd orau o wneud hyn yw cwblhau rhestr wirio bioddiogelwch a fydd yn orfodol i'r holl berchnogion.

“Mae’r cyngor o ran iechyd cyhoeddus yn parhau yr un peth sef fod y risg i iechyd dynol o’r feirws yn isel iawn ac mae cyrff safonau bwyd yn cynghori fod risg diogelwch o ran bwyd yn isel iawn i brynwyr yn y DU.

“Rwyf am ddiolch i bawb ym Mlaenau Gwent sy’n cadw adar yn y sir am y camau y maen nhw wedi eu cymryd i gadw adar Cymru’n ddiogel rhag y clefyd dinistriol hwn; camau y gwyddom sydd wedi diogelu’r adar. Bydd y mesurau ychwanegol a gyhoeddwyd yn adeiladu ar yr ymdrech hwnnw. O’u dilyn yn drylwyr, bydd ein hadar yn cael eu diogelu.â€

I weld rhestr wirio hunan asesu gorfodol ar gyfer bioddiogelwch ewch i

Am y diweddaraf am Ffliw Adar ewch i