°¬²æAƬ

'Fragility of Freedom' yw'r thema ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2024

Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn annog cofio mewn byd sy'n cael ei greithio gan hil-laddiad ac fel Cyngor byddwn yn hyrwyddo ac yn cefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost Rhyngwladol (HMD) ar 27fed o Ionawr 2024. Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn cofio'r 6 miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, ochr yn ochr â'r miliynau o bobl a lofruddiwyd o dan erledigaeth y Natsïaid ac yn ystod hil-laddiadau mwy diweddar yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Mae 27fed o Ionawr 2024 yn nodi pen-blwydd rhyddhau Auschwitz-Birkenau, gwersyll crynhoi'r Natsïaid mwyaf.


Roedd yr Holocost yn bygwth gwead gwareiddiad, a rhaid gwrthsefyll hil-laddiad bob dydd o hyd. Mae ein byd yn aml yn teimlo'n fregus ac yn agored i niwed ac ni allwn laesu dwylo. Hyd yn oed yn y DU, rhaid i ragfarn ac iaith casineb gael ei herio gennym ni i gyd er mwyn hyrwyddo derbyniad a goddefgarwch o fewn ein cymunedau. Mae Diwrnod Cofio'r Holocost ar gyfer pawb. Bob blwyddyn ar draws y DU, mae miloedd o bobl yn dod at ei gilydd i ddysgu mwy am y gorffennol a gweithredu i greu dyfodol mwy diogel lle mae cymunedau'n cael eu dathlu a'u derbyn. Trwy sefyll gyda'n gilydd rydym yn dyst i'r rhai a ddioddefodd hil-laddiad, ac yn anrhydeddu'r goroeswyr a phawb y newidiwyd eu bywydau y tu hwnt i adnabyddiaeth.


Thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni (HMD) yw 'Bregusrwydd Rhyddid'. Mae rhyddid yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Yr hyn sy'n amlwg yw, ym mhob hil-laddiad sydd wedi digwydd, bod rhyddid y rhai sydd wedi'u targedu ar gyfer erledigaeth wedi cael eu cyfyngu a'u dileu, cyn i lawer ohonynt gael eu llofruddio. Mae hon yn aml yn broses gynnil, araf. Mae deg cam hil-laddiad, fel y nodwyd gan yr Athro Gregory Stanton, yn dangos nad yw hil-laddiad byth yn digwydd yn unig, mae yna bob amser set o amgylchiadau sy'n digwydd, neu sy'n cael eu creu, i adeiladu'r hinsawdd lle gellir cynnal hil-laddiad ac y gall cyfundrefnau cyflawnwyr ddileu rhyddid y rhai y maent yn eu targedu.


- Anne Frank, cofnod dyddiadur, dydd Sadwrn 20fed Mehefin, 1942 – gan fyfyrio nôl ar Fai 1940 pan gyrhaeddodd yr Almaenwyr yr Iseldiroedd
"Dyna pryd ddechreuodd y drafferth i'r Iddewon. Cyfyngwyd ein rhyddid yn ddifrifol gan gyfres o archddyfarniadau gwrth-Iddewig."

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost (HMD) 2024 yn nodi 30 mlynedd ers yr hil-laddiad yn erbyn y Tutsi yn Rwanda. 49 mlynedd ar ôl i'r Holocost ddod i ben, 19 mlynedd ar ôl i'r hil-laddiad yng Nghambodia, safodd y byd wrth i eithafwyr Hutu chwalu'r rhyddid bregus yn Rwanda, yn dilyn degawdau o densiwn a thrais, gan arwain at ladd dros filiwn o Dwtsis mewn dim ond can diwrnod.

Er mwyn dangos ymrwymiad Cyngor °¬²æAƬ i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost, bydd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Cunningham, yn cymryd rhan yn ymgyrch genedlaethol 'Goleuni yn y Tywyllwch' trwy gynnau cannwyll ac fel gweithred o undod, bydd y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy yn cael eu goleuo ar 27fed o Ionawr 2024.

Bydd Stori Harry Spiro, Goroeswr Holocost hefyd yn cael ei rhannu fel rhan o bodlediad Valleys Voices sydd wedi'i gynhyrchu gan Dîm Cydlyniant Cymunedol Gwent. Adroddir profiadau Harry gan ei ferch, Tracy Moses. Mae Valleys Voices yn darparu llwyfan i unigolion rannu eu straeon ac archwilio sut y gall ymdeimlad o le uno cymunedau amrywiol.

Gwrandewch ar stori Harry yma Podlediad Valleys Voices | °¬²æAƬ CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Mae Cyngor Tref Tredegar hefyd yn nodi'r foment ryngwladol hanesyddol drwy wahodd aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan yn ymgyrch 'Goleuni yn y Tywyllwch' yng Ngherrig Aneurin Bevan, Tredegar. Mae croeso i westeion greu eu golau eu hunain - boed hynny dim ond trwy gynnau golau te neu gannwyll mewn jar! Ymunwch â ni yn y lleoliad, y dyddiad a'r amser isod.

Lleoliad: Cerrig Aneurin Bevan, Tredegar, NP22 4NZ

Dyddiad: Dydd Sadwrn, 27fed o Ionawr 2024

Amser: Yn dechrau am 6.00pm.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Helen Cunningham: "Y llynedd rhoddodd Cyngor °¬²æAƬ ryddid y fwrdeistref i oroeswr yr Holocost, Eva Clark. Byddwn yn parhau i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost Rhyngwladol bob blwyddyn, ac eleni bydd y Cyngor yn cynnau cannwyll ac yn goleuo'r Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy mewn gweithred o undod.

Ìý
Yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Chris Smith a’r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet yn cynnau’r gannwyll ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost. Ìý O’r chwith i’r dde: Gethin a Sean o ‘No Boundaries’, y Cynghorydd Chris Smith, y Cynghorydd George Humphreys, Swyddog Polisi (Ymgysylltu a Chydraddoldeb) Lissa Friel, y Cynghorydd Helen Cunningham, Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau Andrew Parker a Rheolwr Gwasanaeth Cymorth Busnes Hannah Meyrick.


Gwefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost: (hmd.org.uk)
#DyddCofebyrHolocost
#DCH2024
#GolaurTywyllwch