Sefydlwyd Grŵp Neuadd Gymunedol Beaufort Cyf yn 2014 a chamodd i mewn i arbed Neuadd Les Glowyr Rhiw Beaufort oedd yn wynebu cael ei chau ar y pryd. Ers hynny mae’r grŵp wedi llwyddo i gadw’r adeilad ar agor, gan gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau sy’n sicrhau fod y neuadd yn parhau i fod wrth galon y gymuned. Yn fwy diweddar buont yn llwyddiannus yn cael cyllid o Gronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol Cymru. Fe wnaeth hyn ganiatáu ailwampio’r neuadd is a arferai fod yn ystafell snwcer ac ystafelloedd newid pêl-droed. Mae’r rhain yn awr yn darparu cyfleusterau toiled newydd i’r anabl, cegin a dwy ystafell gyfarfod a gaiff hefyd eu defnyddio ar gyfer cwnsela a therapi. Roedd y cyllid yn ddigon i alluogi gosod lifft i’r llawr uchaf sy’n awr yn rhoi gwell mynediad i’r neuadd uchaf. |
Neuadd Gymunedol Beaufort. |
Ìý
Ìý
Dywedodd Cerys Foley, Cadeirydd/Cyfarwyddwr:
“Aeth y neuadd o nerth i nerth yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’r ailwampio diweddar yn golygu fod gennym yn awr gyfres o ystafelloedd modern a gwell a fyddai’n addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau ar gyfer unrhyw un o Beaufort neu’r ardal ehangach sy’n edrych am archebion unigol neu reolaidd.â€
Mae’r grŵp yn cynnig ystod eang o weithgareddau cymdeithasol a dosbarthiadau ymarfer o yoga i ddawns ac mae ystafelloedd ar gael a all ddarparu ar gyfer cynadleddau a busnesau. Mae lle i hyd at 120 0 bobl ar y llawr daear isaf a’r brif neuadd, gyda Wi-fi ar gael ledled yr adeilad.
Nod y grŵp yw darparu hyb iechyd, cymdeithasol a llesiant i Beaufort a’r gymuned ehangach gyda dull cymorth integredig i drin unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol ar draws y cenedlaethau.
Meddai Huw Lewis, Arweinydd Strategol Rhanbarthol °¬²æAƬ yng Nghymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO):
“Rwyf wedi bod yn falch i helpu Grŵp Llesiant Beaufort i sicrhau cyllid i alluogi gwneud y gwaith gwella ac fel sefydliad mae GAVO yma i gynorthwyo grwpiau eraill sy’n dymuno ymchwilio cyfleoedd cyllid.â€
Pan gamodd y grŵp i mewn i achub yr adeilad, dim ond trwydded i feddiannu oedd ond bu trefniant prydles 25 mlynedd yn ei le ers 2017. Mae’r grŵp bellach wedi tyfu i gynnwys pump Cyfarwyddwr gwirfoddol a nifer o wirfoddolwyr sy’n cyflawni gwahanol swyddi yn y sefydliad. Fodd bynnag, mae croeso bob amser i bobl newydd sy’n dymuno ymuno, felly gofynnir i chi gysylltu â’r grŵp i gael sgwrs gyda nhw am sut y gallwch gyfrannu.
Dywedodd y Cyng Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac Amgylchedd: “Hoffwn ganmol y grŵp am eu gwaith gyda’r neuadd a’u cais llwyddiannus diweddar i Gronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol Cymru. Mae hyn wedi helpu i ddatblygu cyfleusterau’r neuadd i sicrhau y bydd yn parhau i fod wrth ganol y gymuned i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.â€
Mae gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael a manylion y cyfleusterau ar gael o’r wefan:
Llogi cyfleusterau’r neuadd – ffôn: 07498697846 neu e-bost: beauforthillwelfare@aol.com