°¬²æAƬ

Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn croesawu gwaith ar Degwch Mislif

Mae Jane Hutt AS, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, heddiw wedi ymweld â °¬²æAƬ i weld y gwaith arloesol mewn tegwch ac urddas mislif, a gyflwynir ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae Cyngor °¬²æAƬ yn gweithio gydag ysgolion ac ystod o bartneriaid lleol i sicrhau nad oes unrhyw fenyw, beth bynnag ei hoed, dan anfantais drwy beidio cael mynediad i gynnyrch mislif ac mae wedi sicrhau eu bod yn awr ar gael yn rhwydd ac am ddim mewn dros 100 o leoliadau addysg a chymunedol.

Rydym hefyd yn treialu cynnyrch amldro mewn ymgais i helpu mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac yn gweld galw cynyddol am y mathau hyn o ddatrysiadau cyfeillgar i’r amgylchedd.

Ymwelodd Jane Hutt â Chapel Ebenezer yn nhref Abertyleri sy’n helpu i ddosbarthu’r cynnyrch drwy ei fanc bwyd poblogaidd a chwrdd gyda phreswylwyr a disgyblion ysgol sydd wedi manteisio o’r ymgyrch.

Cyfarfu’r Gweinidog hefyd gyda mudiadau sy’n ymwneud â threfnu’r prosiect yn cynnwys swyddogion y cyngor, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd °¬²æAƬ, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Grŵp phs, Clwb Rotari Abertyleri a Blaenau, Ymgyrch Caru eich Mislif ac Undeb Rygbi Cymru.

Mae posteri a gwybodaeth ar gael ym mhob safle lle mae’r cynnyrch ar gael yn rhoi manylion sut i gael y cynnyrch. Mae’r safleoedd yn cynnwys ysgolion, canolfannau chwaraeon, canolfannau cymunedol, cylchoedd chwarae a lleoliadau iechyd.

Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Phrif Chwip:

“Rydym yn ymroddedig i ddod â thlodi mislif i ben a sicrhau bod pawb sy’n ei chael yn anodd i gael cynnyrch mislif yn cael y cymorth maent ei angen. Bu’n gadarnhaol iawn gweld sut y cafodd cynnyrch mislif, yn arbennig y rhai sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, eu darparu mewn ystod eang o leoliadau ym Mlaenau Gwent.

“Gall y gwaith hwn fod yn lasbrint o sut y gallwn sicrhau tegwch ac urddas mislif ar draws Cymru. Yn ogystal â gwella mynediad i gynnyrch mislif, bu’n galonogol clywed am ymdrechion i ddileu stigma siarad am y mislif a sicrhau fod pobl yn fwy gwybodus am iechyd menywod.â€

Dywedodd y Cyng Sue Edmunds, Aelod Pobl ac Addysg ar Gabinet Cyngor °¬²æAƬ:

“Rydym yn falch tu hwnt o’r gwaith sy’n mynd rhagddo ym Mlaenau Gwent i drin tlodi mislif a hyrwyddo urddas mislif, felly roedd yn wych cael Jane Hutt AS yn ymweld â ni heddiw i ganfod mwy am ein gwaith ar y mater pwysig hwn. Mae gennym dîm prosiect brwdfrydig iawn gydag ystod o bartneriaid sydd i gyd yn hollol ymroddedig i sicrhau nad oes unrhyw fenyw dan anfantais oherwydd eu mislif. Ni fu mynediad rhwydd i gynnyrch am ddim erioed yn bwysicach nag yn ystod yr argyfwng costau byw cyfredol lle mae blaenoriaethau gwariant llawer o deuluoedd wedi newid yn syfrdanol, ac efallai y byddent yn gorfod mynd heb ddim fel arall.

“Nid yn unig yr ydym yn ymroddedig i wneud yn siŵr fod cynnyrch ar gael, ond rydym hefyd yn gweithio gyda’n holl bartneriaid i chwalu’r stigma o amgylch mislif. Mae mislif yn normal ac nid ydym eisiau i bobl deimlo’n chwithig yn gofyn am gynnyrch. Mae gennym lawer o gynlluniau cyffrous ar gyfer yr agenda hwn yn y dyfodol, yn cynnwys dosbarthu a hyrwyddo cynnyrch mwy cyfeillgar i’r amgylchedd, ac annog menywod a genethod i fod yn falch o’u mislif!â€

Mae’r Cyngor yn cynnal arolwg ar hyn o bryd ymhlith y rhai sy’n defnyddio’r cynllun i ganfod sut y gellid gwella’r cynllun neu beth yr hoffai pobl weld mwy ohono.