A oes gennych yr hyn sydd ei angen i fod yn dywysydd twristiaeth? Ydych chi’n falch o’ch ardal? Ydych chi eisiau rhannu ei threftadaeth gydag ymwelwyr? Os felly, gallwch fod yr union berson yr ydym edrych amdano.
Wales Best Guides yw corff tywysydd twristiaeth swyddogol Cymru ac maent ar fin lansio sesiynau hyfforddi ym Mlaenau Gwent. Ar ôl gorffen y cwrs, bydd tywyswyr yn gymwys i gyflwyno teithiau o Dŷ Bedwellte, canol tref Tredegar, y Guardian yn Six Bells a chanol tref Abertyleri.
Yn ogystal â rhoi’r sgiliau a gwybodaeth i dywyswyr i arwain teithiau diogel, difyr a diddorol, mae’r cwrs yn creu corff o wybodaeth ar gyfer tywyswyr i’w gyflwyno i ymwelwyr, i gyd i safonau tywyswyr a gydnabyddir yn fyd-eang.
Ar ôl gorffen y cwrs, byddwch yn derbyn Bathodyn Gwyn a thystysgrif gan WOTGA – Cymdeithasau Tywyswyr Taith Swyddogol Cymru. Os hoffech ddal ati a mynd ymhellach, gallwch barhau i gyrsiau Bathodyn Gwyrdd (Rhanbarthol) ac yna’r cwrs Bathodyn Glas (Cymru gyfan). Fel Tywysydd Bathodyn Gwyn cymwys, gallwch fod yn aelod o WOTGA a medru ennill arian fel tywysydd llaw-rydd cymwys. Cewch eich cydnabod gan Croeso Cymru (Llywodraeth Cymru) a Ffederasiwn Cymdeithasau Tywysydd Twristiaeth Ewropeaidd, felly dyma’ch cyfle i ennill arian o waith fel tywysydd.
Mae ffi y cwrs yn £250 neu, yn lle talu ffi cwrs, unwaith y cewch eich Bathodyn Gwyn gallwch gytuno i gyflwyno pedair taith 2-awr ym Mlaenau Gwent heb fod ffi tywysydd.
Caiff y cyrsiau hyn eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ a chânt eu gronfa gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech sgwrs am y cwrs neu ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â Diana James yn dianamjames@btinternet.com neu ar 07527 450138. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 26 Mawrth felly peidiwch â cholli’r cyfle.