°¬˛ćAƬ

Lansio Llysgenhadon Twristiaeth °¬˛ćAƬ

Daeth busnesau o bob rhan o Flaenau Gwent at ei gilydd ar gyfer lansiad Llysgenhadon Twristiaeth °¬˛ćAƬ. Cynhaliwyd y digwyddiad yn ystod Wythnos Llysgenhadon Cymru ac Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2024. 

Mae'r cynllun yn darparu cyfle hyfforddi ar-lein am ddim i wella eich gwybodaeth am y cyfleoedd twristiaeth sydd ar gael ym Mlaenau Gwent gyfan, ei chymoedd hardd, ei thirweddau gwyllt a'i threftadaeth ddiwydiannol ddiddorol. Gall llysgenhadon ddysgu ar-lein mewn ychydig o fodiwlau hawdd. Gallwch ddysgu ar eich cyflymder eich hun, gartref neu yn eich gweithle. Mae pob modiwl yn cynnwys cyfres o glipiau fideo, delweddau a thestun ac yna cwis byr ar y cynnwys.

I'r rhai sy'n dilyn y cwrs bydd yn dyfnhau eu gwybodaeth leol o'r ardal gan eu galluogi i ddarparu profiad gwell fyth i gwsmeriaid. Bydd yn hwb i'w hyder i rannu gwybodaeth am Flaenau Gwent gydag eraill, ennill sgiliau newydd i ychwanegu at eu CVs ac, yn anad dim, dathlu a meithrin balchder ac angerdd yn ein rhanbarth hardd.

I fusnesau lleol, mae'n cynnig rhaglen barod, am ddim ar gyfer sefydlu staff, a help gyda chymhelliant a chadw staff. Bydd yn cynyddu ffyddlondeb ac ymweliadau mynych ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr, hyd arosiadau a gwariant ymwelwyr. Bydd yn galluogi staff i ddarparu profiad unigryw a dilys i ymwelwyr ac mae'n ffordd syml, am ddim o ychwanegu gwerth i'w busnesau wrth helpu'r rhanbarth i ddatblygu a chynnal ein cyrchfannau a rhoi hwb i economi °¬˛ćAƬ.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet - Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd, 'Pan fyddwch chi’n dod yn Llysgennad °¬˛ćAƬ, byddwch chi’n chwarae rhan bwysig wrth gyfoethogi'r profiad cyffredinol i ymwelwyr. Gobeithiwn y bydd pawb sy'n cefnogi'r economi ymwelwyr, o yrwyr tacsis i berchnogion caffis, gwestywyr, tywyswyr, staff bar neu guraduron amgueddfeydd yn cofrestru ac yn dod yn Llysgennad Twristiaeth ar gyfer °¬˛ćAƬ. Rydyn ni hefyd yn gwybod pa mor hynod falch yw ein cymuned o'u hardal felly hoffem weld unrhyw un sy'n frwd dros eu hardal leol yn ymuno â ni.'

Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Aneurin Leisure a Chadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfannau °¬˛ćAƬ, 'Mae hwn yn gyfle gwych i feithrin sgiliau ein holl fusnesau twristiaeth fel bod ein hymwelwyr yn cael y gorau o ddod i Flaenau Gwent. Byddwn yn archwilio’r defnydd o’r adnodd gwych hwn ar gyfer sefydlu staff ar draws ein safleoedd twristiaeth fel y gallwn chwarae ein rhan i uwchwerthu’r Fwrdeistref wych hon. Mae Aneurin Leisure wrth eu boddau o gefnogi'r rhaglen hon ac yn edrych ymlaen at groesawu ein holl ymwelwyr gyda gwybodaeth well.'

Os hoffech fod yn Llysgennad Twristiaeth °¬˛ćAƬ, cofrestrwch ar y wefan Llysgennad Cymru a dilyn cwrs °¬˛ćAƬ.

Mae cwrs Llysgenhadon °¬˛ćAƬ wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac fe'i rheolir gan Rheoli Cyrchfannau yn y TĂ®m Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ.