°¬²æAƬ

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cynnal archwiliad sicrwydd o wasanaethau ar gyfer oedolion gyda anableddau dysgu yn eich ardal.

Pwrpas yr archwiliad hwn yw adolygu pa mor dda y mae’r awdurdod lleol yn arfer ei ddyletswyddau a’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth.

Rydym eisiau clywed am eich profiad o ofyn am a/neu dderbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth a byddwn yn ceisio deall pa wahaniaeth y mae derbyn gwasanaethau wedi ei wneud i chi a/neu eich teulu.

Nid yw'r arolygwyr yn cadw llygad arnoch chi na'ch teulu, ac nid oes rhaid i chi rannu unrhyw wybodaeth bersonol â ni. Os byddwch am aros yn ddienw byddwn yn gwneud yn siŵr na fyddwn yn eich adnabod. Fodd bynnag, os byddwch yn rhoi gwybod i ni am rywun sy'n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, mae dyletswydd gennym i rannu'r wybodaeth ag eraill er mwyn atal niwed pellach.

Ar ddiwedd yr archwiliad sicrwydd, byddwn yn rhannu ein canfyddiadau â'r awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol. Byddwn yn nodi cryfderau ac unrhyw feysydd i'w gwella.

Mae eich barn yn bwysig i ni, a gobeithiwn y byddwch yn cytuno i siarad â ni. Gallai hyn fod trwy sgwrs ffôn neu alwad fideo. Efallai y byddwch hefyd am gwblhau arolwg byr. Os ydych yn hapus i wneud hynny, cliciwch ar y ddolen briodol.

Bydd cyfrinachedd yn cael ei barchu oni bai bod cadw gwybodaeth yn ôl yn peryglu diogelwch person. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich manylion personol, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd yn

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon pellach, mae croeso i chi fy ffonio ar 0300 790 0126 neu anfonwch e-bost ataf yn AGC.AwdurdodLleol@llyw.cymru