Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF neu’r Gronfa) yn biler canolog o’r agenda Ffyniant Bro uchelgeisiol llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o’i chefnogaeth i leoedd ar draws y DU.
Nod y grant o dan y ddarpariaeth Lluosi yw helpu i drawsnewid bywydau oedolion ar draws y DU, trwy wella eu sgiliau rhifedd gweithredol trwy diwtora personol am ddim, hyfforddiant digidol, a chyrsiau hyblyg.
Nod Lluosi yw i ardaloedd lleol fuddsoddi mewn cyfranogiad ystyrlon sy’n hybu gallu pobl i ddefnyddio mathemateg yn eu bywyd bob dydd, gartref ac yn y gwaith – a galluogi oedolion i ennill cymwysterau ffurfiol a all agor drysau iddynt (fel dilyniant gyrfa, neu symud ymlaen i astudiaeth bellach).
Mae’r grant hwn yn targedu ymyriadau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) canlynol yn benodol:
W47: Cyrsiau wedi’u hanelu at bobl na allant wneud cais am swyddi penodol oherwydd diffyg sgiliau rhifedd a/neu annog pobl i uwchsgilio er mwyn cael mynediad at swydd neu yrfa benodol.
W48: Modiwlau Mathemateg perthnasol ychwanegol wedi'u hymgorffori mewn cyrsiau galwedigaethol eraill.
W49: Rhaglenni arloesol a ddarperir ar y cyd â chyflogwyr – gan gynnwys cyrsiau sydd wedi’u cynllunio i gwmpasu sgiliau rhifedd penodol sy’n ofynnol yn y gweithle.
W50: Cyrsiau dwys a hyblyg newydd wedi’u targedu at bobl heb Lefel 2 mewn mathemateg yng Nghymru, gan arwain at gymhwyster cyfatebol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ yn gwahodd sefydliadau i wneud cais mewn proses gystadleuol i gyflwyno’r gweithgareddau rhifedd pwrpasol i drigolion °¬²æAƬ.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 15 Mawrth 2024
Mae ffurflenni cais a chanllawiau ar gael yma.
Canllawiau Ceisiadau Grant Lluosi Cronfa Ffyniant a Rennir
Ffurflen Gais Lluosi Cronfa Ffyniant a Rennir
Dychwelwch eich ceisiadau i: BGCBG-SPF@blaenau-gwent.gov.uk
Am unrhyw ymholiadau cysylltwch â: BGCBG-SPF@blaenau-gwent.gov.uk