°¬²æAƬ

Mae Maethu Cymru yn cynnal digwyddiad i recriwtio mwy o ofalwyr maeth y mae angen brys amdanynt ledled Cymru.

Mae timau maethu awdurdodau lleol °¬²æAƬ, Caerffili, Sir Fynwy a Thorfaen yn cydweithio i annog mwy o bobl i faethu plant a phobl ifanc o’u hardaloedd lleol yn ogystal â cheiswyr lloches/ ffoaduriaid ifanc sy’n cyrraedd Prydain.

Cynhelir Digwyddiad Recriwtio Gofalwyr Maeth ar 26 Tachwedd yn y Neuadd Wydr, Marchnad Casnewydd. Ei nod yw canfod mwy o bobl a allai fod â diddordeb mewn dod yn ofalwyr maeth a darparu cartrefi da i blant a phobl ifanc sydd eu hangen yn yr ardal leol.

Dywedodd Nina Kemp-Jones, un o Reolwyr Datblygu Rhanbarthol Maethu Cymru: “Mae angen brys am fwy o ofalwyr maeth o gefndiroedd amrywiol ar gyfer plant lleol a’r nifer cynyddol o ffoaduriaid ifanc. Mae dros 100 o ffoaduriaid ifanc yn dod i Gymru bob blwyddyn a chaiff canran fawr ohonynt eu rhoi yn yr ardal leol. Dylai Cymru fod yn wlad groesawgar ar gyfer ffoaduriaid ifanc sy’n ceisio nodded.â€

Bu’r blynyddoedd diwethaf yn rhai heriol i faethu. Mae angen gweithredu ar frys i godi ymwybyddiaeth a recriwtio mwy o ofalwyr maeth yng Nghymru. Rhannodd Mike, gofalwr maeth o Gasnewydd, ei brofiad fel rhan o ymgyrch genedlaethol i ganfod mwy o ofalwyr maeth:

“Mae wedi ehangu fy nealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau a gwneud i mi sylweddoli pa mor debyg yw pawb. Rydyn ni gyd eisiau yr un pethau. Fe ofalais am un dyn ifanc a briododd y llynedd, roedd gyda fi am dair blynedd.

Mae’n dal i siarad gyda fi bob wythnos. Mae’n fy nhrin fel ffigur tadol ac mae eraill hefyd sy’n dal i fyw yn yr ardal leol ac rwy’n eu gweld yn gyson. Mae’r rhain yn bobl ifanc sydd angen help a chael eu diogelu ac rwy’n ystyried fod hynny’n bwysig iawn. Rwy’n gwybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth.â€

Cynhelir y digwyddiad galw heibio rhwng 11am a 3pm ddydd Sadwrn 26 Tachwedd. Gallwch hefyd ganfod mwy am faethu ar gyfer eich Awdurdod Lleol yn maethucymru.llyw.cymru. Cysylltwch â’ch tîm lleol heddiw!