°¬²æAƬ

Mae tân gwyllt yn dychryn anifeiliaid – helpwch i’w cadw nhw’n ddiogel

Mae perchnogion anifeiliaid anwes a cheffylau ym Mlaenau Gwent yn cael eu hannog i baratoi ar gyfer y tymor tân gwyllt er mwyn helpu i leihau’r straen y mae tân gwyllt yn ei achosi i'w hanifeiliaid.

Mae’r tymor tân gwyllt yn dechrau cyn Noson Guto Ffowc/Noson Tân Gwyllt ac yn para tan ddathliadau'r Flwyddyn Newydd, ond gellir cymryd camau ymlaen llaw i helpu anifeiliaid.

Mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn cynghori perchnogion i weithredu cyn y tymor tân gwyllt i sicrhau na chaiff anifeiliaid eu dychryn gan fflachiadau sydyn o olau a chleciau uchel.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: 
"Mae angen codi ymwybyddiaeth o dân gwyllt a'r effaith mae’n ei gael ar anifeiliaid anwes, ceffylau, da byw a bywyd gwyllt lleol.  Rhaid i ni beidio ag anghofio y gall cleciau uchel a fflachiadau llachar o olau achosi braw a phryder a bod yn frawychus iawn i lawer o anifeiliaid.

"Rydym yn annog perchnogion anifeiliaid anwes a cheffylau i baratoi ar gyfer y tymor tân gwyllt ac i bobl sy'n ystyried cynnal arddangosfeydd tân gwyllt ddarllen y cyngor yn ofalus ac ystyried unrhyw effaith ar anifeiliaid."

Cyngor ar sut i gadw'ch anifeiliaid anwes yn ddiogel:
• Cadwch gŵn a chathod y tu mewn bob amser yn ystod tân gwyllt.
• Caewch yr holl ffenestri a drysau a blociwch ddrysau cathod.
• Sicrhewch fod cŵn yn gwisgo rhyw fath o brawf adnabod.
• Paratowch rywle i’ch anifail anwes lle gall deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus.
• Gadewch i'ch anifail anwes symud o gwmpas, nadu, mewian a chuddio os yw'n dymuno.
• Ceisiwch beidio â chwtsio a chysuro anifeiliaid anwes gan y byddan nhw’n meddwl eich bod chi’n poeni hefyd.
• Peidiwch â gadael anifeiliaid anwes ar eu pennau eu hunain yn ystod tân gwyllt.
• Peidiwch â chlymu eich ci y tu allan yn ystod tân gwyllt.
• Peidiwch byth â mynd â'ch ci i arddangosfa tân gwyllt.

Cyngor i berchnogion ceffylau gan Lywodraeth Cymru:
• Dewch o hyd i amseroedd a lleoliadau digwyddiadau tân gwyllt sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal. Ni ddylai trefnwyr digwyddiadau gynllunio tân gwyllt yn agos at geffylau mewn caeau neu stablau.
• Tendiwch i’ch ceffylau fel arfer a'u cadw mewn amgylcheddau diogel a chyfarwydd. Gallai hyn olygu eu gadael y tu allan yn ystod tân gwyllt os mai dyma eu trefn arferol. Os ydyn nhw’n arbennig o ofnus o dân gwyllt, efallai y byddwch am ystyried eu rhoi mewn stabl dros nos.
• Cadwch yn ddiogel a chadwch lygad am geffylau ofnus i osgoi cael anaf.
• Y bore ar ôl tân gwyllt, mae'n bwysig cynnal gwiriad iechyd ar eich ceffyl i sicrhau ei les ac edrych am unrhyw anafiadau gweladwy.

Am ragor o gyngor defnyddiol ewch i a chwilio am ‘tân gwyllt’ neu wefan y Groes Las a chwilio am ‘tân gwyllt ac anifeiliaid anwes’.