°¬˛ćAƬ

Mis Pride 2024

Rydym yn falch i gefnogi Mis Pride drwy gydol  Mehefin.

Er anrhydedd i Fis Pride, bydd baner Cynnydd yn cael ei chodi y tu allan i'r Swyddfeydd Cyffredinol i ddathlu amrywiaeth o fewn ein cymunedau a'n gweithlu.

Mae mis Pride yn ymwneud â derbyn, cydraddoldeb, dathlu gwaith pobl LHDTQ+, addysg mewn hanes LHDTQ+ a chodi ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar y gymuned LHDTQ+

Dathlir Diwrnod Pride ar yr 28ain,  mae'r diwrnod yn nodi dyddiad  hanesyddol   Y Terfysgoedd Stonewall a ddigwyddodd yn Efrog Newydd ym 1969. Nod Mis Pride yw coffáu'r  terfysgoedd a gafodd hir effaith ledled y byd a lluniodd diwygiadau yn y gyfraith  i dderbyn hunaniaeth LHDTQ+.

Dysgwch fwy am y  terfysgoedd yma;

Os ydych chi'n bwriadu cynnal sesiynau neu hyrwyddo Pride mis/dydd mewn unrhyw ffordd y byddem wrth ein bodd yn clywed gennych, anfonwch unrhyw ddiweddariadau neu lluniau   at lissa.friel@blaenau-gwent.gov.uk

Digwyddiadau Pride

Bydd Cyngor °¬˛ćAƬ yn cefnogi

Bydd Swyddog Cydraddoldeb ynghyd ag aelodau o'r gymuned a disgyblion o Ysgol Gymunedol Ebwy Fawr yn gorymdeithio yn yr orymdaith yn nigwyddiad Pride Cymru 2024 yng Nghaerdydd dydd Sadwrn y 22ain o Fehefin. Byddant yn mynychu, ochr yn ochr ag Awdurdodau Lleol eraill Cymru, o dan faner 'Cynghorau Balch'.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad ewch i