°¬²æAƬ

Peidiwch Rhoi’r Pwmpen yn y Bin

Gallwn gasglu eich pwmpen ar ôl Calan Gaeaf. Torrwch eich pwmpen yn ddarnau a’i rhoi yn eich cadi bwyd neu roi’r bwmpen gyfan yn ymyl y cadi.

Byddwn yn casglu ar eich diwrnod ailgylchu arferol ar ôl Calan Gaeaf.

Beth ddylwn i wneud gyda fy mhwmpen?
Y Calan Gaeaf hwn cofiwch pa rymus y gall ailgylchu bwyd fod. Pan fyddwch yn cerfio eich pwmpen, peidiwch â thaflu’r hadau – ailgylchwch nhw, neu hyd yn oed yn well, gostwng eich gwastraff hyd yn fwy drwy wneud rhywbeth blasus a iach allan o’r tu mewn, tebyg i’r Cawl Pwmpen Sbeislyd yma.

Cawl Pwmpen Sbeislyd
Amser paratoi – 5 munud
Amser coginio – 60 munud
Gweini 1

Cynhwysion
Hanner pwmpen
1 taten felys
1/2 pupur coch
1½ cwpan (375 ml) dŵr
1 cwpan (250 ml) llaeth braster llawn
1 chilli coch
Pinseidiau o halen a phapur

Dull
1. Cynhesu’r ffwrn i 190 gradd Celsius.
2. Tynnu cnawd y bwmpen allan gyda llwy, a phlicio’r daten felys.
3. Torri’r bwmpen a’r daten felys yn giwbiau 1 fodfedd.
4. Tafellu’r pupur coch a rhoi’r llysiau ar hambwrdd rhostio, gyda diferion olew.
5. Rhoi yn y ffwrn i rostio am 30-40 munud, nes bydd yn feddal.
6. Gadael y llysiau i oeri ychydig.
7. Unwaith y byddant wedi oeri digon i’w trin, rhoi’r pwmpen, taten felys a phupur i blendr gyda dŵr, llaeth a chilli wedi ei dorri’n fan, a’i flendio nes bydd yn llyfn.
8. Tywallt i sosban a thwymo nes bydd yn boeth, gan ychwanegu mwy o ddŵr os ydych yn hoffi cawl ychydig yn deneuach.
9. Rhoi halen a phupur at eich dant.

Awgrym y Chef: I gael blas ychydig yn fwy melys, rhostio’r bwmpen a’r daten felys nes eu bod yn dywyll ac wedi caramaleiddio. Mae’n bwysig gadael i’r llysiau oeri cyn rhoi yn y blender gan y gallai pwysedd y stêm wneud annibendod yn y gegin.

Defnyddio: Defnyddiwch unrhyw lysiau amrwd sydd gennych ar ôl.

Amrywiadau: I wneud hyn yn bryd bwyd mwy cytbwys, gallwch weini gyda croutons garlleg neu ychydig dafelli o fara menyn. Gallwch hefyd amrywio’r cynhwysion drwy ddefnyddio pwmpen cnau menyn yn lle, neu yn ychwanegol, at y bwmpen!

Blas ychwanegol: Gall ychwanegu eich cyfuniad eich hunain o berlysiau a sbeisys tebyg i coriander, cwmin, oregano neu hadau ffenigl wirioneddol ychwanegu at y caw.

Rhewi: Mae’n syniad gwych i rewi dognau o’r cawl hwn, a fydd yn rhoi cawl cartref i chi yn y dyfodol heb yr amser paratoi!

Dewisiadau fegan: I addasu’r cawl ar gyfer person feban, rhowch stoc llysiau neu laeth cnau coco yn lle’r llaeth, fydd yn rhoi blas gwahanol.

Cyngor alergedd: Mae’n rhwydd addasu’r cawl i osgoi alergenau ac i fod yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o fathau diet.

Mae’n bosibl ailgylchu bwyd ar draws Cymru. Mae mwy o wybodaeth am sut i ailgylchu ar gael yn