°¬²æAƬ

Penodi Maer Ieuenctid a Dirprwy Faer Ieuenctid yng Nghyngor °¬²æAƬ

Mae’r Cynghorydd Chris Smith, Aelod Llywyddol a Phencampwr Cydraddoldeb °¬²æAƬ, wedi sefydlu Chloe Simmonds sy’n 17 oed fel y Maer Ieuenctid newydd mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy ar 11 Rhagfyr 2023. Fe wnaeth y digwyddiad hwn hefyd alluogi pobl ifanc °¬²æAƬ i ddathlu eu llu o lwyddiannau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Chloe Simmonds yn ddisgybl yng Coleg Gwent a bydd yn olynu’r Maer Ieuenctid Mara Moruz a siaradodd am daith ei blwyddyn fel Maer Ieuenctid, oedd yn hollol ysbrydoledig. Cyflwynwyd y Fedal anrhydedd i Mara am ei chyfnod yn y swydd a diolchwyd iddi am ei hymroddiad parhaus fel Aelod o’r Fforwm Ieuenctid.

Yn ei haraith yn derbyn y swydd soniodd Chloe am ei blaenoriaethau sef newid y stigma am ddillad a theganau ail-law (yr argyfwng costau byw) a chynyddu ymwybyddiaeth o anableddau cudd.

Cafodd Ellie Colwell o Coleg Gwent hefyd ei phenodi yn Ddirprwy Faer Ieuenctid ar gyfer eleni. Dywedodd Ellie mai ei blaenoriaethau fydd iechyd meddwl (cymorth a hygyrchedd), codi ymwybyddiaeth o blant a gafodd brofedigaeth a chynyddu cefnogaeth i blant sydd wedi ymddieithrio o’u teuluoedd.

Cafodd cymryd llwon ei gefnogi gan y Cynghorydd Chris Smith sy’n ymroddedig fel pencampwr cydraddoldeb a chefnogwr plant a phobl ifanc a’r Fforwm Ieuenctid. Siaradodd y Cynghorydd Sue Edmunds a’r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet yn y digwyddid gan ddiolch i’r Maer Ieuenctid sy’n gadael y swydd a chroesawu’r Maer Ieuenctid newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Smith, Aelod Lywyddol a Phencampwr Cydraddoldeb:
“Mae °¬²æAƬ bob amser yn ymdrechu i fod yn fan lle gall lleisiau pobl ifanc gael eu clywed. Bydd y Fforwm Ieuenctid a’r Maer Ieuenctid newydd yn helpu i godi proffil ein pobl ifanc yn eu cymunedau.â€

Ìý
Chloe Simmonds, Maer Ieuenctid 2023 – 24. Ìý Ellie Colwell, Dirprwy Faer Ieuenctid 2023 – 24.
Ìý Ìý Ìý
Ìý Ìý
Fber.O’r chwith i’r dde: Aelod Llywyddol y Cynghorydd Chris Smith, Maer Ieuenctid sy’n gadael y swydd Mara Moruz gyda’i Medal Anrhydedd, y Cynghorydd Sue Edmunds a’r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet. Ìý Ìý