°¬²æAƬ

Penodi Pencampwr Sir Undeb Credyd

Mae'r ymgyrch i wneud °¬²æAƬ y 'Sir Undeb Credyd' gyntaf yng Nghymru wedi cymryd cam pwysig ymlaen.

Mae ‘Pencampwr’ Undeb Credyd newydd – y Cynghorydd Jules Gardner gyda Chyngor °¬²æAƬ - wedi'i benodi, gyda’r rôl newydd yn cyd-fynd â’i frîff cyngor i fynd i'r afael â safonau byw isel. Y nod uchelgeisiol yw hybu aelodaeth yn sylweddol, ac yn y tymor hwy i gofrestru hanner oedolion y Sir yn aelodau o'r Banc Cymunedol.

Wrth i sefydliadau ariannol traddodiadol barhau i gau canghennau, mae Banciau Cymunedol ac Undebau Credyd lleol yn dod yn bwysicach, ac mae eu haelodaeth yn tyfu.

Gyda hyn mewn golwg, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ (BGCBC) a Banc Cymunedol Smart Money Cymru wedi ffurfio partneriaeth i ledaenu'r gair fod gwasanaeth bancio o ansawdd uchel ar gael i bawb, ac maen nhw’n cydweithio i gynyddu aelodaeth.

Mae gan Smart Money bresenoldeb cryf yn y Sir yn barod gyda 2055 o aelodau yn ogystal â 14,000 yn Ne a Chanolbarth Cymru, ac mae'r Cynghorydd Gardner yn hyderus y gellir cynyddu hyn yn sylweddol wrth i bobl ddod i ddeall manteision ymuno. "Dyw pobl ddim wastad yn sylweddoli y gallan nhw gynilo eu harian yn ddiogel gyda'r Banc Cymunedol a chymryd benthyciadau allan ar gyfraddau teg hefyd," meddai.

Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod sawl busnes mawr yn symud i'r Sir gan greu niferoedd sylweddol o swyddi newydd. "Mae hyn yn gyfle i'r Banc Cymunedol ymgysylltu â'r cyflogwyr newydd hyn, gan ddarparu gwasanaeth bancio ar gyfer y gweithlu a gwasanaethau eraill fel Cynilion Cyflogres."

Ychwanegodd Alun Taylor, Cadeirydd Smart Money, fod cynnydd sylweddol eisoes wedi'i wneud o ran ehangu rôl y Banc a gwneud °¬²æAƬ y 'Sir Undeb Credyd' gyntaf yng Nghymru. Sefydlwyd Canolfan Fancio yn Stiwt Glynebwy ac mae pedair arall wedi'u cynllunio mewn lleoliadau strategol, yn ogystal â rhwydwaith o glybiau cynilo ysgolion.

"Ein nod hirdymor yw cofrestru hanner oedolion °¬²æAƬ fel Aelodau Undeb Credyd neu Fanc Cymunedol fel sydd wedi digwydd mewn gwledydd eraill, ac rydym yn credu bod hyn yn bosibl. Rydym ni a'r Cyngor yn cefnogi’r polisi hwn yn llawn a byddwn yn gweithio'n galed i ledaenu'r neges," ychwanegodd.

Dull gweithredu Smart Money oedd bod yn hyblyg wrth wneud penderfyniadau ar fenthyciadau a cheisiadau eraill. "Rydym yn credu mewn cynnig gwasanaeth personol ac edrych ar ystod ehangach o ffactorau pan fyddwn yn gwneud benthyciad neu benderfyniadau eraill," ychwanegodd. "Ein nod yw trin yr Aelodau mewn ffordd deg a rhesymol a chymryd agwedd hirdymor, sy'n wahanol iawn i ddull gweithredu clinigol banciau'r Stryd Fawr.

"Un gwahaniaeth pwysig rhyngom ni a nhw yw ein bod ni'n bodoli er budd yr Aelodau ac mae elw’n cael ei ailgylchu, tra bod yn rhaid i Fanciau wneud elw i'w cyfranddalwyr," meddai.