Mae targedau ailgylchu blynyddol wedi'u cyrraedd eto gan Gyngor °¬²æAƬ sydd wedi rhagori ar darged Llywodraeth Cymru o 64%. Mae adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet ar y 4ydd o Ragfyr yn cadarnhau bod y ffigur cyfradd ailgylchu o 66.18% wedi'i gyflawni.
Mae Tîm Gwastraff ac Ailgylchu °¬²æAƬ wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf drwy gynyddu faint mae'r fwrdeistref yn ei ailgylchu. Fodd bynnag, mae targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn codi i 70% a fydd yn her.
Mae Timau Gwastraff y Cyngor eisoes yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, drwy Bartneriaid Lleol a’r Rhaglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau (WRAP), i ddatblygu strategaeth newydd a fydd yn cynyddu eu hailgylchu ymhellach er mwyn cyrraedd cyfradd newydd 2024-25 a thu hwnt.
Meddai’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham:
“Hoffwn ddiolch i breswylwyr am barhau i ailgylchu a rhagori ar darged ailgylchu Llywodraeth Cymru eleni. Yn y dyfodol bydd disgwyl i ni ailgylchu hyd yn oed mwy, felly rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â chartrefi i leihau maint gwastraff bagiau du. Mae ein gwasanaeth casglu gwastraff yn esblygu’n gyson i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’n hadnoddau ac i wneud casgliadau’n fwy effeithlon.â€