Cynhelir Diwrnod Coffa’r Holocost ar 27 Ionawr bob blwyddyn, dyddiad rhyddhau Auschwitz-Birkenhau, gwersyll marwolaeth mwyaf y Nazïaid. Mae’n ddiwrnod rhyngwladol i gofio’r chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, ynghyd â miliynau o bobl eraill o grwpiau eraill a laddwyd dan erledigaeth y Nazïaid ac mewn achosion eraill o hil-laddiad arall a ddilynodd yn Cambodia, Bosnia a Darfur. Mae’n achlysur i bawb i ddysgu, cofio a myfyrio.
‘Pobl Gyffredin’ yw thema Diwrnod Cofio’r Holocost eleni ac mae’n rhoi sylw i’r bobl gyffredin a adawodd i hil-laddiad ddigwydd, y bobl gyffredin a gyflawnodd hin-laddiad a’r bobl gyffredin a gafodd eu herlid. Mae hefyd yn ein hysgogi i ystyried sut y gallai pobl gyffredin, tebyg i ni ein hunain, efallai chwarae mwy o ran nag y medrem ddychmygu mewn herio rhagfarn heddiw.
Mae ymchwilio thema Pobl Gyffredin yn edrych ar rai categorïau penodol (cyfllawnwyr, rhai oedd yn bresennol, achubwyr). Mae’n nodi nad yw pobl bob amser yn dod yn daclus o fewn un o’r categorïau hyn, a bod ystod o ymatebion o fewn categorïau, o fewn sectorau, swyddi a chyfrifoldebau i’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas, fel y dengys enghraifft gweithwyr rheilffordd yn yr Holocost:
Enghraifft: Pobl Gyffredin – Gweithwyr rheilffordd yn ystod yr Holocost
‘Fel plentyn pum mlwydd oed, gallwn sefyll ar ymyl y llecyn lle’r oedd y trenau’n cael eu llwytho. Roedd pobl fel sardîns yn y tryciau pren hynny.
A’r bobl oedd yn eu llwytho – dynion rheilffordd oedden nhw, doedden nhw ddim yn edrych yn wahanol iawn i’r dynion rheilffordd sy’n edrych ar fy nhocynnau y dyddiau yma – roeddent yn edrych fel pobl gyffredin’. Dr Martin Stern, MBE, goroesydd yr Holocost
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn amser pan geisiwn ddysgu gwersi’r gorffennol a sylweddoli nad yw hin-laddiad yn digwydd ar ei ben ei hun – mae’n broses gyson a all ddigwydd os na chaiff gwahaniaethu, hiliaeth a chasineb eu gwirio a’u hatal.
Fe wnaeth yr Holocost fygwth ffabrig gwareiddiad, ac mae’n rhaid gwrthod hin-laddiad bob dydd. Mae ein byd yn aml yn teimlo’n fregus ac ni allwn laesu dwylo. Hyd yn oed ym Mhrydain, mae’n rhaid i bawb ohonom herio rhagfarn ac iaith casineb.
I ddangos ymrwymiad y Cyngor i goffau Diwrnod Cofio’r Holocost, caiff cloc Tredegar a Swyddfeydd Cyffredinol Glynebwy eu goleuo i ddangos gweithred o undod a chefnogaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Smith, Hyrwyddwr Cydraddoldeb Cyngor °¬²æAƬ: “Rwy’n falch i ddweud y bydd °¬²æAƬ yn coffau Diwrnod Rhyngwladol Cofio’r Holocost. Byddwn yn goleuo cloc tref Tredegar a Swyddfeydd Cyffredinol Glynebwy. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymysg ein cynghorwyr, staff a phartneriaid ddydd Gwener 27 Ionawr er mwyn cofio yr erchyllterau a ddigwyddodd, dangos undod a chefnogaeth a bod yn oleuni yn y tywyllwch mewn ymateb i’r anfadwaith hwn.â€
Gwefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost:Â
Tagiau Cyfryngau Cymdeithasol - #HMD #Council #OrdinaryPeople #DCH #yCyngor #PoblGyffredin  Â