Rydym wedi cyhoeddi datganiadau yn flaenorol mewn perthynas â darn o dir yn Nant-y-glo lle'r oedd gwaith datblygu tir wedi digwydd heb ganiatâd cynllunio gan Gyngor °¬˛ćAƬ. Cyflwynwyd Hysbysiad Atal Dros Dro i dirfeddianwyr a phartĂŻon â diddordeb ar 5 Ebrill 2024 gan ddefnyddio'r pwerau perthnasol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Ddydd Mercher, 1 Mai 2024, cafodd y Cyngor Waharddeb Uchel Lys Dros Dro yn y termau canlynol:
- Ni fydd y tirfeddianwyr yn cyflawni nac achosi unrhyw waith peirianneg neu weithredoedd datblygu ar y Tir heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw, gan gynnwys ar ffurf codi unrhyw adeilad neu strwythur arall neu drwy newid defnydd perthnasol.
- Ni fydd y tirfeddianwyr yn dod ag unrhyw garafán deithiol, cartref symudol nac unrhyw strwythur symudol arall i'r Tir, ac eithrio’r chwe charafán deithiol a oedd wedi'u lleoli ar y tir ar ddyddiad y waharddeb dros dro hon
- Ac eithrio'r tirfeddianwyr, ni chaiff unrhyw berson breswylio yn na meddiannu (gan gynnwys drwy aros dros nos) unrhyw un o'r carafanau teithiol y caniateir eu cadw ar y tir
Mae hwn yn orchymyn dros dro nes bydd yr achos yn Ă´l gerbron y Llys ar 21 Mehefin 2024.