Llongyfarchiadau i Evan Coombes, Prentis Dechnegydd Labordy yn PCI Pharma Tredegar, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth Cymru 2022. Ymunodd Evan â’r busnes datrysiadau fferylliaeth a biofferylliaeth byd-eang drwy Raglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel °¬²æAƬ.
Enillodd Evan, 19 oed o Flaenafon, fedal aur yng nghategori Technegydd Labordy Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gynharach eleni ac mae wedi arbed amser ac arian i’w gyflogwr gyda’r data a gasglodd ar gyfer prosiect gwella parhaus.
Nawr mae Evan ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Talent Yfory yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2022. Caiff enwau’r buddugwyr eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo rithiol ar 10 Tachwedd ac mae’r gwobrau yn rhoi sylw i lwyddiannau eithriadol mewn cyfnod na welwyd ei debyg, gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn ar gyfer prentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW).
Caiff Evan, sy’n gweithio tuag at Brentisiaeth Technegwyr Labordy a Gwyddoniaeth a gyflwynir gan , ei gyflogi ar y cyd gan PCI Pharma Services ac Anelu’n Uchel °¬²æAƬ. Mae hefyd yn astudio Tystysgrif Genedlaethol Uwch Lefel 4 mewn Cemeg Cymwysedig yng Ngholeg Gwyr, Abertawe.
Wedi’i ganmol am ei waith ardderchog, mae Evan eisoes yn gweithio i safon dadansoddydd Lefel 1 y diwydiant ac yn gweithio goramser i sicrhau y caiff meddyginiaeth achub bywyd ei dosbarthu i’r farchnad cyn pryd ac y caiff targedau ariannol eu cwrdd yn yr adran lle mae’n gweithio.
Dywedodd Danielle Davies, arweinydd tîm sefydlogrwydd PCI: “Gwelais Evan yn tyfu mewn cyfnod byr i ddod yn ddadansoddydd galluog a chyflawn o fewn blwyddyn cyntaf ei brentisiaeth. Mae ei lwyddiannau i gyd wedi bod oherwydd ei ymroddiad i ddysgu a’r awydd i wneud yn dda. Mae wedi cwblhau pob tasg i 100% o’i allu ac wedi cyrraedd yr holl nodau ac amcanion a osodwyd.â€
Er iddo wneud yn dda yn ei arholiadau Lefel A, roedd Evan yn ansicr am fynd i brifysgol oherwydd bygythiad mwy o ddysgu o bell a achoswyd gan bandemig COVID-19. Mae’r brentisiaeth gyda Anelu’n Uchel a PCI wedi ei alluogi i ddefnyddio ei wybodaeth a sgiliau, ennill profiad, hybu ei addysg a datblygu gyrfa.
Dywedodd Evan: “Rwy’n gwirioneddol fwynhau fy swydd oherwydd mae’n golygu gwneud rhywbeth gwahanol bob dydd ac mae’n fy ngalluogi i roi popeth a ddysgaf ar waith. Fy uchelgais yw parhau i sicrhau cynnydd gyda PCI.â€
Dywedodd Tara Lane, Rheolwr Tîm Sgiliau Rhanbarthol Anelu’n Uchel: “Mae llawer iawn o gystadleuaeth i gyrraedd rowndiau terfynol y wobr hon felly mae cyrraedd y rhestr fer yn gryn gamp. Mae rhaglen Anelu’n Uchel yn cydnabod pwysigrwydd profiad gwaith ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ yn hollol gefnogol i’r ymagwedd hon. Hoffwn longyfarch Evan ar gyrraedd ei le yn y rownd derfynol ac estyn fy nymuniadau gorau oll iddo ar gyfer y noswaith wobrwyo.â€
Evan Coomes, Prentis Technegydd Labordy yn PCI Pharma, sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth Cymru 2022 yng nghategori Gwobr Galent Yfory. |