°¬²æAƬ

Rhaglen Prentisiaeth Anelu’n Uchel °¬²æAƬ yn ennill Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig am Weithio Partneriaeth

Cafodd Rhaglen Rhannu Prentisiaethau Anelu’n Uchel ei chydnabod gan Academi Sgiliau Cymru am eu gwaith partneriaeth rhagorol dros y flwyddyn ddiwethaf a chyflwynwyd gwobr ‘Cydnabyddiaeth Arbennig am Weithio Partneriaeth’ iddynt. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar 7 Tachwedd 2023 yng Nghampws Castell-nedd Port Talbot Academi Sgiliau Cymru.

Mae’r wobr yn cydnabod gwaith partneriaeth dau neu fwy o ddarparwyr o fewn Academi Sgiliau Cymru neu gydweithio gyda rhanddeiliaid allanol. Mae hyn yn dangos effaith o fewn yr addysgu, dysgu ac asesiad sy’n gwella profiad dysgwyr a/neu yn ymateb i brinder sgiliau ac anghenion cyflogwyr.

Sefydlwyd Academi Sgiliau Cymru ym mis Hydref 2009 fel y bartneriaeth ddysgu seiliedig mewn gwaith gyntaf o’i bath yng Nghymru. Cafodd ei chreu mewn ymateb i heriau a amlinellwyd o fewn Agenda Trawsnewid Cymru ar gyfer Addysg Ôl-16. Roedd y bartneriaeth yn dod ynghyd ag ystod eang o ddarparwyr seiliedig ar waith rhagorol ac o’r un anian. Maent yn parhau i arwain ar yr heriau hyn drwy ledaenu’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer pob dysgwr a gostwng dyblygu costus ar ddarpariaeth.

Ers 1 Awst 2010, bu’r Bartneriaeth yn gweithredu fel un cyswllt gyda Llywodraeth Cymru. Caiff hyn ei arwain gan Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot ar gyfer darparu rhaglenni dysgu seiliedig ar waith. Mae gan y Coleg un o’r comisiynau mwyaf gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r ystod ehangaf o brentisiaethau mewn dros 58 maes galwedigaethol, yn amrywio o Lefel 2 i 5.

Mae Academi Sgiliau Cymru yn darparu ar hyn o bryd mewn ardal ddaearyddol amrywiol iawn yn cynnwys Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, °¬²æAƬ, Torfaen, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Dywedodd Tara Lane, Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig:
“Mae’n gryn gamp i ennill y wobr hon sy’n cydnabod sut mae rhaglen Anelu’n Uchel yn cydnabod pwysigrwydd gwaith partneriaeth. Hoffwn longyfarch y tîm ar eu hymroddiad a’u hymrwymiad, yn arbennig pan y’u dewiswyd ymysg cynifer o bartneriaid rhagorol eraill o fewn grŵp partneriaeth Academi Sgiliau Cymru.â€

Sefydlwyd Anelu’n Uchel °¬²æAƬ yn 2015 ac mae’r tîm o chwech aelod yn arbenigo mewn darparu prentisiaid ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu a pheirianneg ym Mlaenau Gwent a Merthyr. Hyd yma, mae ganddynt record wych o 100% o brentisiaid yn cael eu cyflogi drwy’r rhaglen ar ôl cwblhau eu prentisiaethau. Cafodd tîm Anelu’n Uchel eisoes ei gydnabod am eu hymroddiad a record prentisiaid rhagorol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2019 a 2021 pan wnaethant ennill y categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.

Tîm Anelu’n Uchel yn union ar ôl iddynt gael eu cyflwyno gyda gwobr ‘Cydnabyddiaeth Arbennig am Weithio Partneriaeth’ yn y digwyddiad.