°¬²æAƬ

Rhaglen Ysgolion 21ain yr Ganrif yn barod i gyflwyno mwy o brosiectau addysg cyffrous

Mae Cyngor °¬²æAƬ wedi parhau i sicrhau cynnydd wrth gynllunio ar gyfer nifer o brosiectau cyffrous i wella ysgolion er gwaethaf pandemig COVID-19.

Heddiw cefnogoddÌý Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu y Cyngor adroddiad a chroesawu’r cynnydd hyd yma.

Gan weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen flaengar Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae’r Cyngor yn parhau i weithio ar foderneiddio ei stad ysgolion drwy amrywiaeth o ddatblygiadau newydd a gwaith gwella sylweddol i adeiladau ysgol presennol. Caiff yr holl weithiau eu dynodi ar sail blaenoriaeth ac asesiad addasrwydd/cyflwr o’r stad ysgolion.

Ym Mlaenau Gwent mae’r rhaglen eisoes wedi cyflawniÌý adeiladu ysgolion cynradd newydd yn Abertyleri a Six Bells (y ddwy yn rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri), ailwampio helaeth ar Ysgol Gynradd Ystruth a gwaith ailwampio i Ysgol Gyfun Tredegar.

Mae’r Cyngor yn awr yn symud ymlaen gyda Band B y rhaglen, sy’n rhedeg tan 2025, a bydd yn gweld buddsoddiad o tua £26m yn y stad ysgolion yn lleol, yn cynnwys ysgol gynradd Gymraeg newydd.

  • Mae’r gwaith sydd ar y gweill yn cynnwys:
  • Ysgol gynradd Gymraeg newydd gyda gofal plant cysylltiedig yn Nhredegar
  • Ysgol gynradd newydd gyda gofal plant cysylltiedig yng Nglyncoed, Glynebwy
  • Ailwampio ysgolion uwchradd yn Nhredegar, Brynmawr ac Abertyleri
  • Ailwampio ysgolion cynradd Ysghol Gymraeg Bro Helyg, Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen, Ysgol Gynradd Cwm ac Ysgol Gynradd Beaufort
  • Llain 3G yn Ysgol Sefydliadol Brynmawr

Cadwch lygad am yr wybodaeth ddiweddaraf ar y prosiectau hyn ar sianeli °¬²æAƬ dros y misoedd nesaf. Amcanion Rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif yw trin y blaenoriaethau allweddol dilynol:

  • Codi safonau, yn neilltuol ar Gyfnod Allweddol 4
  • Gwella addasrwydd a chyflwr y stad ysgolion
  • Ymarferoldeb rhaglen – arian cyfatebol a fforddiadwyedd
  • Cynaliadwyedd a gostwng costau refeniw
  • Cynyddu cyfleoedd dysgu cyfrwng Cymraeg
  • Diwallu anghenion oedolion bregus
  • Cael yr ysgolion cywir yn y lleoedd cywir

Ìý

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg:

“Mae darparu’r safonau addysgol a’r cyfleoedd addysgu a dysgu gorau, yn ogystal â gofalu am lesiant ein plant a phobl ifanc, yn parhau i fod yn brif flaenoriaethau i ni.

“Mae gwneud yn siŵr y gall dysgwyr gael mynediad i’r cyfleusterau modern gorau oll yn rhan o hyn. Mae gennym hanes o lwyddiant o weithio’n agos gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru i gyflawni ar brosiectau sy’n galluogi ein disgyblion i gael mynediad i amgylcheddau dysgu modern a diddorol lle gallant ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.â€