°¬²æAƬ

Tîm 14+ yn enill Gwobrau Canmoliaeth Gofal Cymdeithasol Cymru

Llongyfarchiadau i Dîm 14+ Gwasanaethau Plant °¬²æAƬ am ennill Gwobr Canmoliaeth Gofal Cymdeithasol 2022 yng nghategori ‘Adeiladu dyfodol mwy disglair ar gyfer plant a theuluoedd’.

Enillodd y tîm y Wobr am ddangos enghraifft ardderchog o ymarfer gofal cymdeithasol am brosiect dan yr enw ‘Lle i Dyfu’ sy’n darparu gofod diogel ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, ymadawyr gofal a phlant sydd angen gofal a chymorth, i’w grymuso a helpu i ddatblygu sgiliau byw cynaliadwy a bod yn rhan o’r gymuned leol yn ogystal â rhoi gofod diogel iddynt ymweld ag ef a’i fwynhau fel eu lle eu hunain.

Mae’r wobr yn cydnabod prosiect 14+ fel enghraifft ardderchog o ymarfer gofal cymdeithasol, gan gadw ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth galon eu gwaith a gwella deilliannau ar gyfer ein plant, pobl ifanc a theuluoedd.

(L-R) Simon Burch – Aelod o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, Nicola Williams, Alison Ramshaw, Beth Thomas; Aimee Evans, Hannah Watts ac Sue Evans – Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru