Bydd Rhyddid Bwrdeistref °¬˛ćAƬ yn cael ei roi i’r chwaraewr snwcer chwedlonol, Ray Reardon, wedi ei farwolaeth. Cytunwyd ar hyn yn unfrydol yng Nghyfarfod Llawn y Cyngor heddiw.
Ganwyd Ray Reardon yn Nhredegar a gwnaeth gyfraniad mawr i fyd snwcer nid yn unig yn Nhredegar ond ledled Cymru a’r byd. Dominyddodd y gamp am y rhan orau o ddegawd gan ennill chwe Phencampwriaeth Snwcer y Byd rhwng 1970 a 1978 a mwy na dwsin o deitlau proffesiynol eraill yn ystod ei yrfa.
Bu farw ym mis Gorffennaf eleni yn 91 oed.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Smith, Aelod Llywyddol Cyngor °¬˛ćAƬ:
"Rwy'n falch iawn bod y Cyngor heddiw wedi cefnogi’r cynnig i roi Rhyddid y Fwrdeistref i’r chwaraewr snwcer Ray Reardon o Dredegar, wedi ei farwolaeth. Roedd Ray yn chwaraewr chwedlonol ac yn un o gymeriadau mawr y gamp. Roedd yn llawn ffocws ac yn benderfynol wrth y bwrdd, ond i ffwrdd ohono roedd yn adnabyddus am ei gynhesrwydd a'i hiwmor - gŵr bonheddig go iawn. Mae Ray yn haeddu'r anrhydedd uchaf y gallwn ei ddyfarnu fel Cyngor."
Ray yw'r ail chwaraewr snwcer i dderbyn yr anrhydedd yma, yn dilyn Mark Williams yn 2019. Dyma'r anrhydedd uchaf y gall Awdurdod Lleol ei roi i unigolyn.
Bydd trefniadau nawr yn cael eu gwneud i ddyfarnu'r anrhydedd yn ffurfiol.