°¬²æAƬ

Cap Budd-daliadau

Os yw'r cap budd-daliadau yn effeithio arnoch, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi a fydd yn egluro beth allai'r cap ei olygu i chi.

Budd-daliadau a effeithir gan y cap

Mae cap ar fudd-daliadau yn gyfyngiad ar gyfanswm y budd-daliadau y gallwch ei gael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed neu drosodd nad ydynt wedi cyrraeddÌý.

Mae’r cap ar fudd-daliadau’n effeithio ar:

  • Lwfans Profedigaeth
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Rhiant Gweddw (Lwfans Mam Weddw neu Bensiwn Weddw os oeddech wedi dechrau ei gael cyn 9 Ebrill 2001)
  • Credyd Cynhwysol

·¡´Ú²¹±ô±ô²¹¾±ÌýÌýos ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol efallai na fydd yÌý, yn dibynnu ar eich enillion.

Ìý

Mae'r swm a gewch drwy'r cap budd-daliadau yn dibynnu ar p'un ai:

  1. Rydych chi'n byw y tu mewn neu'r tu allan
  2. Rydych chi'n sengl neu mewn cwpl.
  3. Mae eich plant yn byw gyda chi (os ydych chi'n sengl).

Os ydych chi mewn cwpl ond nad ydych chi'n byw gyda'ch gilydd, byddwch chi'n cael y symiau ar gyfer person sengl.

Ìý

Pan na fyddwch yn cael eich effeithio

Nid yw’r cap yn effeithio arnoch os ydych drosÌý. Os ydych yn rhan o gwpl ac mae un ohonoch o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall y cap fod yn berthnasol.

Ni effeithir y cap arnoch os ydych chi neu’ch partner:

  • yn caelÌý(hyd yn oed os yw’r swm a gewch yn £0)
  • yn cael Credyd Cynhwysol oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich rhwystro rhag gweithio (gelwir hyn yn ‘allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’)
  • yn cael Credyd Cynhwysol oherwydd eich bod yn gofalu am rywun ag anabledd
  • yn cael Credyd Cynhwysol ac rydych chi a’ch partner yn ennill £793 neu’n fwy y mis ar y cyd, ar ôl treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol

Ni fyddwch yn cael eich effeithio gan y cap os ydych chi neu eich partner neu unrhyw blant dan 18 oed yn byw gyda chi yn cael:

  • Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Taliad Annibynol y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr
  • Taliad Cymorth Gofalwr
  • Taliad Anabledd Plant
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (os ydych yn cael yr elfen gymorth)
  • Lwfans Gwarcheidwad
  • Budd-dal Anafiadau Diwydiannol (a thaliadau cyfatebol fel rhan o Bensiwn Anabledd Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Pensiwn Rhyfel
  • Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Bensiwn Gŵr Gweddw

Os ydych yn cael eich effeithio, efallai na fydd yÌýÌý- yn dibynnu ar eich enillion.

Help os yw'r cap budd-daliadau yn effeithio arnoch chi

Cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os yw’r cap budd-daliadau yn effeithio arnoch chi a bod angen help arnoch chi.

Os oes angen help arnoch i dalu’ch rhent neu flaendal rhent, cysylltwch â’chÌýÌýhefyd. Gallant wirio a ydych yn gymwys i gaelÌý, nad yw’r cap budd-dal yn effeithio arno.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol

Cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau naill ai:

  • trwy’r dyddlyfr yn eichÌý
  • trwy ffonio’rÌý

Os cewch unrhyw fudd-daliadau eraill

Llinell gymorth cap budd-dal os na chewch Gredyd Cynhwysol


Ffôn: 0800 169 0238
Ffôn (Saesneg): 0800 169 0145
Ffôn testun: 0800 169 0314
Ìý(os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 169 0145
ÌýIaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut iÌý

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Ìý

Cysylltwch â Gwybodaeth

Enw'r Tîm: Budd-daliadau

Ffôn: 01495Ìý 311556

E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk

Ìý