°¬²æAƬ

Sut i Wneud Hawliad

Os oes gennych hawl iddo, mae Budd-dal Tai a'r Cynllun Gostwng Treth Gyngor yn helpu i dalu tuag at eich rhent/Treth Gyngor os ydych ar incwm isel. Caiff y swm a gewch ei gyfrif drwy edrych ar:

  • Faint o arian sydd gennych yn dod i mewn
  • Eich amgylchiadau personol a faint o rent y mae'n rhaid i chi dalu
  • Faint o gynilion sydd gennych
  • Incwm gan aelodau eraill eich cartref

Defnyddiwch y cyfrifwr budd-daliadau yma i weld pa help y gallwch ei gael.

I wneud cais newydd am Fudd-dal Tai/Gostyngiad Treth Gyngor, bydd angen i chi wneud apwyntiad i lenwi ffurflen gais. Gallwch wneud cais am Fudd-dal Tai a Gostyngiad Treth Gyngor yn defnyddio'r un ffurflen.

I siarad â rhywun o'r adran budd-daliadau, cysylltwch â ni ar 01495 311556 neu e-bostiwch benefits@blaenau-gwent.gov.uk. Rhwng yr oriau o: Dydd Llun: 9am - 5pm; Dydd Mawrth: 9am - 5pm; Dydd Mercher: 9am - 5pm; Dydd Iau: 10am - 5pm; Dydd Gwener: 9am - 5pm.

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai, gallech hefyd fod â hawl i brydau ysgol am ddim ar gyfer unrhyw blant yr ydych yn gyfrifol amdanynt.

Mae'r cynllun budd-dal yn berthnasol i bawb sy'n talu rhent sy'n byw mewn:

  • cartref cymdeithas tai (gall cyfyngiadau tan-ddefnydd effeithio ar y tenantiaid hyn)
  • tenantiaid sy'n byw mewn cartref a gaiff ei rentu'n preifat (gelwir y lwfans ar gyfer y tenantiaid hyn yn Lwfans Tai Lleol
  • tenantiaid sy'n byw mewn hostel
  • Cynllun Gostwng y Dreth Gyngor sy'n berthnasol i unrhyw un sy'n atebol i dalu'r Dreth Gyngor.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, bydd hyn yn cynnwys eich costau tai fydd yn golygu na fydd angen i chi hawlio ar wahân am Fudd-dal Tai.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen i Credyd Cynhwysol.
Bydd yn dal angen i chi hawlio Gostyngiad Treth Gyngor os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol.

Gwybodaeth Gyswllt

Budd-dal Tai
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk