Grant Cymorth Tai
Os ydych yn byw ym Mlaenau Gwent ac yn 16 oed neu drosodd ac yn cael trafferthion i gadw eich cartref, mewn risg o golli eich swydd, angen symud neu angen help i drefnu eich arian – gallai’r Tim Cefnogi Pobl gynnig cymorth i chi. Nid oes cost am ein gwasanaeth.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i
neu gysylltu â’r Tîm Grant Cymorth Tai ar  01495 354681,354683 neu e-bost supporting.people@blaenau-gwent.gov.uk
Gostyngiad yn y Dreth Gyngor
Os ydych ar incwm isel neu’n derbyn budd-daliadau neilltuol ac yn atebol i dalu’r dreth gyngor, gallech fod yn gymwys am Ostyngiad Treth Gyngor. Cliciwch yma i ganfod mwy Budd-daliadau Ar-lein | °¬²æAƬ CBC (blaenau-gwent.gov.uk)
Budd-dal Tai
Gall Budd-dal Tai eich helpu i dalu eich rhent os ydych yn ddi-waith, ar incwm isel neu’n hawlio budd-daliadau. Mae’r Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno yn lle budd-dal tai.
Dim ond yn yr achosion dilynol y gallwch wneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai:
- Eich bod wedi cyrraedd oed Pensiwn Gwladol
- Eich bod yn byw mewn tai â chymorth, tai gwarchod neu lety dros dro
Cliciwch yma i ganfod mwy: Hawlio budd-dal tai | °¬²æAƬ CBC (blaenau-gwent.gov.uk)
Taliad Tai ar Ddisgresiwn
Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu elfen tai Credyd Cynhwysol, ond yn ei chael yn anodd talu eich rhent, gallwch wneud cais am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn (DHP).
I ganfod mwy a gwirio os gallech fod yn gymwys am gymorth, ewch i Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn | °¬²æAƬ CBC (blaenau-gwent.gov.uk)
Mwy o Gymorth a Chyngor
Hybiau Cymunedol °¬²æAƬ
Mae’r hybiau mewn lleoliad canolog mewn llyfrgelloedd canolog mewn llyfrgelloedd leol a gaiff eu rheoli gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ac maent yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar ystod o wasanaethau Cyngor.
I gael dyddiadau ac amserau safleoedd ewch i
Cyngor ar Bopeth
POBL
Platform
Shelter Cymru