Gwaith Anawdurdodedig
Sut ydw i’n rhoi gwybod am waith adeiladu anawdurdodedig?
Os ydych yn credu bod gwaith adeiladu yn cael ei wneud heb gymeradwyaeth neu sydd ddim yn cyd-fynd â gofynion y Rheoliadau Adeiladu, gallwch gysylltu â’r cyngor trwy ffonio 01495 311556 a gofyn i gael eich rhoi drwyddo i’r adran rheoli adeiladu neu trwy e-bostio:- building.control@blaenau-gwent.gov.uk
Gofynnir ichi ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gallwch megis cyfeiriad, lleoliad a natur y gwaith os ydych yn gwybod. Bydd hyn yn ein helpu i ymdrin â’r cwyn yn gyflym.
Cyfrinachedd
Mae cwynion am waith anawdurdodedig a thorri rheolau’n cael eu trin yn gwbl gyfrinachol. Os byddwch yn cyflwyno cwyn i ni, ni fyddwn yn pasio’ch manylion ymlaen at berchennog yr adeilad.
Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddarparu’ch manylion cyswllt oherwydd mae’n bosib bydd angen rhagor o wybodaeth neu eglurhad arnom am y cwyn.
Gwybodaeth Gyswllt
Rheoli Adeiladu
01495 364848
Rheoli Adeiladu, Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN