Gwasanaeth Warden Cŵn
Mae ein wardeiniaid cŵn yn patrolio'r fwrdeistref ac yn ymateb i gwynion am gŵn crwydr.ÌýLLynedd, gafaelwyd 58 o gwn crwydr gennym.
Caiff yr holl gŵn na chânt eu hawlio gan eu perchnogion eu hail-gartrefu drwy ganolfannau ail-gartrefu cenedlaethol. Dim ond cŵn sy'n ddifrifol wael neu wedi eu hanafu neu na fedrir eu hail-gartrefu oherwydd eu hoedran neu am resymau ymddygiad a gaiff eu rhoi i gysgu. Mae'r Cyngor yn defnyddio cenelau lleol i letya'r cŵn nes cânt eu hailgartrefu neu eu hail-uno gyda'u perchnogion.
Os ydych yn colli ci:
Ffoniwch ni ar (01495) 357813 a byddwn yn cofrestru eich manylion chi a manylion y ci. Byddwn yn croes-baru'r manylion hyn gyda'r cŵn hynny yr ydym eisoes wedi eu dal. Dylech hefyd gysylltu â milfeddygon lleol neu'r heddlu a gallech hefyd roi'r gair ar led yn eich ardal leol. Rydym hefyd yn rhoi manylion ar ein tudalen Facebook am unrhyw gŵn yr ydym wedi dod o hyd iddynt
ÌýÌý
Os yw'ch ci gennym ni:
Os yw'ch ci gennym ni, bydd yn rhaid i chi dalu ffi i'w ryddhau. Mae'r ffioedd presennol fel sy'n dilyn:
Nifer Dyddiau mewn Cenel |
Ffi Rhyddhau |
Hyd at 24 awr ar ôl corlannu |
£108 |
2Ìý»å»å¾±·É°ù²Ô´Ç»å |
£124 |
3 diwrnod |
£140 |
4 diwrnod |
£156 |
5 diwrnod |
£172 |
6 diwrnod |
£188 |
7 diwrnodÌý |
£206 |
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
O 6 Ebrill 2016 mae'n ofyniad cyfreithiol bod cŵn yn cael microsglodyn gyda'r manylion diweddaraf. Bydd y Cyngor yn defnyddio'r holl fanylion o'r microsglodyn i ddynodi a hysbysu perchennog ci a gasglwyd fel ci crwydr. Fodd bynnag, eir â phob ci a gasglwyd i genelau'r Cyngor lle bydd angen talu ffi er mwyn rhyddhau'r anifail.Ìý
Os nad oes gan eich ci ficrosglodyn, bydd angen i chi sicrhau y gwneir hyn o fewn 21 diwrnod o’ch ci yn cael ei rhyddhau o’r cenel a bydd angen i chi roi tystiolaeth i’r Awdurdod Lleol y cafodd hyn ei wneud.
Bydd angen i chi dalu'r cyfan o'r ffi rhyddhau yng nghyfleusterÌý y Cyngor. Ffon 01495 357813 cyn y gellir rhyddhau eich ci.
Os ydych chi'n dod o hyd i gi
Ffoniwch ni gyda chymaint o wybodaeth ag sydd modd os gwelwch yn dda. Byddwn naill ai yn casglu’r ci o’ch cyfeiriad cartref os yw yn eich meddiant neu’n ceisio lleoli a dal y ci os yw’n dal i grwydro. Nid yw ein cenelau yn cynnig gwasanaeth tu allan i oriau mwyach. Os dewch o hyd i gi strae tu allan i oriau swyddfa, os yn bosibl dylech gadw’r anifail tan y diwrnod gwaith nesaf pan fydd warden cŵn yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad cartref i gasglu’r anifail. Os na fedrwch wneud hynny, yna rhyddhewch yr anifail yn y lleoliad lle gwnaethoch ddod o hyd iddo gan ei bod yn debyg y bydd y ci yn canfod ei ffordd yn ôl i’w gyfeiriad cartref.
Gwybodaeth Gyswllt
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â (01495) 357813
Tu allan i Oriau Swyddfa - ffoniwch (01495) 311556
Tîm Gorfodaeth Rheng Flaen
Swyddfeydd Cyffredinol
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6AA
Ìý