°¬˛ćAƬ

Casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol

Gallwch gofrestru am ein “Casgliad Gwastraff Hylendid Amsugnol” wythnosol am ddim neu drwy ffonio 01495 311556.

Caiff y gwasanaeth wythnosol hwn ei gasglu bob dydd Gwener ar draws y Fwrdeistref. Rhowch eich “Gwastraff Hylendid Amsugnol” allan cyn 7am ar y diwrnod casglu os gwelwch yn dda.

Caiff preswylwyr sy’n cofrestru am y gwasanaeth “Sachau Hylendid Melyn”. Caiff y rhain eu dosbarthu gan y criwiau ar y diwrnod casglu nesaf.

Gallwch ofyn am fwy o “Sachau Hylendid Melyn” drwy ffonio 01495 311556

Dylid nodi na chaiff unrhyw geisiadau a wneir ar Ă´l 12 canol dydd ar ddydd Iau eu gweithredu ar y diwrnod casglu nesaf a byddant yn dechrau ar y dydd Gwener dilynol.

Dylid nodi fod y man casglu ar gyfer “Gwastraff Hylendid Amsugnol” yr un lle â’ch man casglu ailgylchu.

Beth gaiff ei gasglu yn fy sachau hylendid melyn?

•ÂĚ̱đ·É˛â˛Ô˛Ô˛ąłÜ
•ĚýPadiau anymataliaeth
•ĚýBagiau stoma

Beth na chaiff ei gasglu yn fy sachau hylendid melyn?

•ĚýNi dderbynnir gwastraff clinigol yn cynnwys dresinau a menig
•ĚýGwastraff cyffredinol yn gymysg gyda chynnyrch hylendid
•ĚýBagiau a thiwbiau catheter

Gofalwyr Plant Cofrestredig

Codir tâl am y casgliad os yw’r preswylydd wedi cofrestru fel gofalwr plant.

Cartrefi Gofal, Cartrefi Nyrsio neu Ysbytai

Nid yw’r gwasanaeth ar gael i gartrefi gofal nyrsio, cartrefi nyrsio nac ysbytai.

Dylid nodi na fedrir rhoi “Gwastraff Hylendid Amsugnol” mewn unrhyw fag heblaw’r “Sachau Hylendid Melyn” a gyflenwyd gan yr Awdurdod neu ni chaiff eich gwastraff ei gasglu.

Bydd Warden Gwastraff yn ymweld ag unrhyw aelwyd a ganfyddir yn defnyddio “Sachau Hylendid Melyn” a gyflenwyd ar gyfer gwastraff cyffredinol a gallai hyn arwain at dynnu’r aelwyd o’r gwsanaeth casglu. Os caiff y “Sachgau Hylendid Melyn” a gyflenwyd eu defnyddio ar gyfer gwastraff cyffredinol aelwyd, ni chânt eu casglu.

Cyn i chi ddechrau byddwch angen

Eich enw defnyddiwr a chyfrinair Fy Ngwasanaethau neu greu cyfrif drwy glicio ar y sgrin fewngofnodi.

Os dymunwch ofyn am y gwasanaeth hwn ar ran rhywun arall, cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 os gwelwch yn dda.


Os ydych angen help

Os oes gennych fwy gwestiynau am Gasgliad Hylendid Amsugnol, angen diweddaru eich manyli,Ěý gofyn am “Sachau Hylendid Melyn” ychwanegol, canslo’r gwasanaethĚý neu’n cael anawsterau yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, cysylltwch os gwelwch yn dda â C2BG ar 01495 311556.

Ěý

Ěý